Pods newydd Pisgah

Teulu o amaethwyr ym Mhisgah yn arallgyfeirio wrth godi podiau moethus

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae teulu o amaethwyr ym Mhisgah, ger Aberystwyth yn dechrau ar fenter o arallgyfeirio a chreu maes gwyliau yn llawn podiau moethus.

Stephen Griffiths yw’r trydydd cenhedlaeth i ffermio ym Mhantmawr, ac mae yntau a’w wraig Angela a’u plant Steffan ac Elin yn byw ar y fferm.

Mae’n nhw yn ffermio defaid a gwartheg eidion ar oddeutu 400 o gyfeiriau. Mae Stephen hefyd yn gweithio ar gyfer cwmni Lloyds Animal Feeds ac Angela i Feddygfa’r Llan yn Aberystwyth, a gyda Steffan nawr allan o’r ysgol mae’n cymryd diddordeb cynyddol yng ngwaith y daliad a mae yntau ac Elin yn aelodau brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Trisant a’r Cylch.

 

Pam arallgyfeirio?

Gyda Steffan yn dangos diddordeb mewn dod adref i ffermio, roedd y teulu yn edrych am gyfle i greu incwm ychwanegol ar y fferm. Roedd creu busnes llety ar gyfer twristiaid yn rhywbeth roedd Angela yn frwd i’w wneud, ac wedi i Stephen weld stondin cwmni Wigwam yn Y Sioe Frenhinol yn 2016, dechreuodd bopeth syrthio i’w le.

Oherwydd nad oedd gan unrhyw un yn y teulu brofiad o redeg busnes dwristiaeth o’r blaen, roedd y cymorth a gynigir gan gwmni Wigwam yn cynnig cyfle euraidd i fentro i’r maes. Ynghyd â’r cyfle busnes, roedd golwg, pensaernïaeth a moethusrwydd y podiau ‘Wigwam’ yn ddeniadol iawn, ac roedden nhw’n ffyddiog y byddai ymwelwyr yn teimlo’n glyd a chartrefol ynddynt.

 

Ble?

Mae’n nhw am leoli’r podiau yng Nghae Lluest, sydd yn agos i’r ffermdy ac yn un o’r caeau gyda’r golygfeydd gorau ar y fferm, gan edrych i lawr dros ddyffryn prydferth y Rheidol ac allan i’r môr a Bae Ceredigion. Mae yna fynedfa breifat i fynd atynt, gyda rhwydd hynt i’r ymwelwyr fynd a dod heb boeni am brysurwch a helynt y buarth.

Mae cwmni Wigwam yn adeiladu’r podiau yn eu gweithdy yn Perth yn Yr Alban, ac yna yn eu cludo fesul pâr ar lori i’w safle nhw. Aeth y teulu am daith i weld y gweithdy ym mis Tachwedd, gan weld un o’u cabanau nhw yn cael ei adeiladu yn y sied enfawr ar gyrion y ddinas.

 

Sawl un?

Mi fydd yna chwech o bodiau i gyd, gyda phedwar o fath ‘deluxe’ sydd yn cysgu pedwar (un gwely dwbl a dau sengl) gyda chyfleusterau en-suite. Mae’r ddau ‘pod’ arall o fath gaban ac yn fwy o faint ac yn cysgu hyd at 6 o bobl, eto gyda chyfleusterau en-suite. Mae yna gyflenwad drydan i bob pod gyda gwresogyddion a chegin fach gyda ffwrn, microdon a thostiwr a sinc i olchi llestri. Bydd gan tri o’r podiau dwba poeth preifat sydd yn gweithio gan losgi pren o goedlannau’r fferm.

 

Pwy?

Y gobaith yw i ddenu nifer o ymwelwyr gwahanol, o feicwyr a cherddwyr sydd eisiau profi’r holl anturiaethau sydd gan yr ardal i’w gynnig, i gyplau, grwpiau a theuluoedd sydd jest eisiau ychydig o lonyddwch a thawelwch yng cefn gwlad. Gydag atyniadau Pontarfynach, yr Hafod a Mynyddoedd Cambria rhyw ychydig filltiroedd i’r dwyrain a’r llwybr i ddyffryn y Rheidol ac yna’r môr nepell i’r gorllewin, mae yna gyfle i fwynhau mynydd a mor o’r safle. Wrth gwrs, does dim rhaid gadael y lle o gwbl, gyda’r twba poeth a’r podiau moethus, mae modd ymlacio a mwynhau’r golygfeydd heb gamu tu hwnt i’r stepen drws.

Gyda’r bwriad o greu mwy o incwm ar y fferm, y teulu fydd yn gwneud y gwaith o dacluso, glanhau a pharatoi, gydag Angela yn cymryd yr awenau ac yn rhedeg y sioe.

 

Heriau

Nid yw’r fenter wedi bod heb ei heriau hyd yn hyn, un o’r mwyaf o’r rhain oedd tramwyo’r broses gynllunio – bu’n dair mlynedd o waith caled i dderbyn caniatâd, ac yn dipyn o gost cyn dechrau gosod yr un sylfaen.

Mae’n nhw’n gobeithio agor ar yr 22ain o Fai, ar gychwyn gwyliau Hanner Tymor, ac yn teimlo bod gosod dyddiad pendant yn help i gynllunio’r gwaith o baratoi ac yn rhoi nod i anelu ato.

 

Edrych i’r dyfodol

“Rydym yn gobeithio y bydd y busnes yn llewyrchus,” meddai Angela.

“Ac y byddwn yn medru denu ymwelwyr yn ôl dro ar ôl tro, gan ddenu bobl o bob cwr o Brydain a thramor i fwynhau yr hyn sydd gan ein hardal hynod ni i’w gynnig.”

“Gobeithiwn hefyd yn y dyfodol ddatblygu dull o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, fel ein bod yn medru cyflenwi pob peth ar gyfer y podiau o’n tir ein hunain.”