Pentref Heb Siop, Pentref Heb Galon
Edrychai Phil yn eiddgar ymlaen at orffen gwaith,
At ddydd ei ymddeoliad ar ôl llafurwaith maith.
Breuddwydiai am foreau o fwyn segurdod braf,
Â’i Western Mail yn gwmni, boed aeaf neu boed haf.
Breuddwydiai am gael darllen pob stori heb ddim hast,
Am hanes Catherine Zeta, neu ddyn yn colli gast,
Am helynt Gweilch ac Elyrch a hanes y bêl gron,
Cyn troi at wneud y croesair am awr neu ddwy o’r bron.
A’r bore cyntaf hwnnw, â’i slipyrs am ei draed,
Brasgamodd lawr y grisiau ond siomedigaeth gaed.
O’r cyntedd daeth yn waglaw, doedd dim byd wrth y drws,
Heb bapur yn ei ddisgwyl, fe deimlodd Phil y blŵs.
Aeth ati i wisgo sgidie, ei sgarff, ei hat a’i got,
A phâr o fenig gwlanen, a mas ag ef fel shot.
Cyrhaeddodd Siop y Pentref mewn munud, mwy neu lai,
Ond o’r fath siom a gafodd wrth weld y drws ar gau.
Fe geisiodd troi y bwlyn, a chanu’r gloch yn flin;
A chicio’r drws yn galed ond gwelwyd yr un dyn.
Yn sydyn welodd neges yn sownd ar ddarn o bren,
The shop will soon re-open. We hope to see you then.
Er iddo deimlo’n ddiflas, os oedd y geiriau’n wir,
Fe fyddai’r Siop yn agor, a hynny cyn bo hir.
Ar hynny trodd am adref, a rhoi y tecil mlân,
Ail ddodi’r slipyrs am ei drâd a chwtsho flân y tân.
*************************
Tair blynedd wibiodd heibio, a’r siop sy’n dal ar gau,
A hoffai Phil gael gwybod pwy yffach sydd ar fai.
Sdim Post na siop bapurau, na lle i mofyn llâth,
Heb obaith prynu Golwg na Lol na stwff o’r fath.
Un tro fe welwyd gweithwyr yn peintio’r lle yn sionc,
Gan lenwi Phil â gobaith, a’i galon roddodd sbonc.
A phan ddaeth rhewgell newydd rhyw ddydd ar lori fawr,
Y pentref oll a ddathlodd, gan ddisgwyl am yr awr.
Y til gyrhaeddodd nesaf, a hwnnw sy’n ei le,
Yn barod am gwsmeriaid o’r Gogledd ac o’r De.
Mae golau yno weithiau a chlywir sawl hwre,
Pan welir rhywun diarth yn taro lan o’r dre.
Ond ofer fu y disgwyl, mae’r cloncian wedi mynd,
Sdim cyfle yno bellach i dynnu coes rhyw ffrind.
Cyrhaeddodd degawd newydd, pob gobaith ddaeth i stop,
A glaswellt sydd yn tyfu ar y llwybr hir i’r Siop.
Chwefror 2020
(Tynnwyd y llun ym Mis Mawrth 1995. Rhai o blant Tal-y-bont gyda’r awdur Elwyn Ioan o flaen Siop y Pentref pan oedd Swyddfa’r Post o dan fygythiad am y tro cyntaf.)