Penrhyn Coch yn dathlu’r Ŵyl gyda Phlygain rithiol

“Trio ennyn gobaith i ni – o wybod bod hi’n bosib cario ‘mlaen gyda phethau fel hyn.” 

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae sawl sefydliad cymunedol yng Ngheredigion yn prysur baratoi at gynnal eu digwyddiadau Nadoligaidd yn rhithiol, mewn ymdrech i uno ar ôl flwyddyn anodd.

Yn eu plith, mae Eglwys Sant Ioan, sydd yn cynnal Plygain Penrhyn-coch yn rhithiol, nos Iau Ragfyr 17.

Daw hynny wedi i Gyngor Sir Ceredigion atgoffa trefnwyr digwyddiadau dathlu’r Nadolig i gydnabod y risg a dilyn y rheoliadau dros yr Ŵyl.

“Trio ennyn gobaith”

Mewn sgwrs gyda BroAber, dywedodd y Parchedig Lyn Lewis Dafis mai dyma’r degfed ar hugain Plygain i’w gynnal yn yr Eglwys… ond y cyntaf i’w chynnal yn rhithiol.

“Mae’r Plygain yn rhan bwysig o galendr ein Heglwys,” eglurodd, “ac mae’n un o wasanaethau mawr y flwyddyn i ni yn Eglwys Sant Ioan.

“Bydd y patrwm yn dilyn patrwm arferol Plygain traddodiadol – heb y traddodiad o gyfrannu’n fyr rybudd, gan nad yw hynny’n bosib yn ôl y drefn yma.

“Byddai meddwl peidio cynnal e yn meddwl bod, mewn rhy ffordd neu’i gilydd, bod y pandemig wedi bod yn drech arna ni.

“Trio ennyn gobaith i ni o wybod bod hi’n bosib cario ‘mlaen gyda phethau fel hyn.”

Nawdd Cymdeithas y Penrhyn

Mae’r Plygain yn cael ei chynnal o dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Eglurodd ysgrifennydd y gymdeithas, Ceris Gruffydd bod angen i bawb sy’n dymuno mynychu i gofrestru yn gyntaf.

Maent hefyd yn gwahodd i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan i gysylltu cyn gynted â phosib.

Nodyn atgoffa gan y Cyngor

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi nodyn atgoffa i’r rhai sy’n bwriadu cynnal eu digwyddiadau wyneb-yn-wyneb dros yr Ŵyl:

“Wrth i adeg y Nadolig agosáu, atgoffir trefnwyr digwyddiadau cymunedol o’r pwysigrwydd i ddilyn holl reoliadau COVID-19, yn enwedig o ran cynulliadau cymdeithasol dan do ac yn yr awyr agored.

“Fel rheol, mae gwyliau’r Nadolig yn dymor arbennig o boblogaidd ar gyfer codi arian mewn cymunedau neu gynnal digwyddiadau cymdeithasol, ond yn aml gall hyn olygu nifer fawr o bobl yn dod at ei gilydd mewn un lle.

“Fodd bynnag, eleni mae’n rhaid i ni ystyried a ddylem drefnu neu fynychu digwyddiadau cymunedol sy’n debygol o ddenu crynoadau mawr o bobl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau cyswllt ag eraill y tu allan i’n cartrefi estynedig, lle bynnag y bo modd.

Mae rheoliadau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, ac felly’n destun newidiadau.

Mae modd edrych ar y wybodaeth diweddara fan hyn.