Mae sawl sefydliad cymunedol yng Ngheredigion yn prysur baratoi at gynnal eu digwyddiadau Nadoligaidd yn rhithiol, mewn ymdrech i uno ar ôl flwyddyn anodd.
Yn eu plith, mae Eglwys Sant Ioan, sydd yn cynnal Plygain Penrhyn-coch yn rhithiol, nos Iau Ragfyr 17.
Daw hynny wedi i Gyngor Sir Ceredigion atgoffa trefnwyr digwyddiadau dathlu’r Nadolig i gydnabod y risg a dilyn y rheoliadau dros yr Ŵyl.
“Trio ennyn gobaith”
Mewn sgwrs gyda BroAber, dywedodd y Parchedig Lyn Lewis Dafis mai dyma’r degfed ar hugain Plygain i’w gynnal yn yr Eglwys… ond y cyntaf i’w chynnal yn rhithiol.
“Mae’r Plygain yn rhan bwysig o galendr ein Heglwys,” eglurodd, “ac mae’n un o wasanaethau mawr y flwyddyn i ni yn Eglwys Sant Ioan.
“Bydd y patrwm yn dilyn patrwm arferol Plygain traddodiadol – heb y traddodiad o gyfrannu’n fyr rybudd, gan nad yw hynny’n bosib yn ôl y drefn yma.
“Byddai meddwl peidio cynnal e yn meddwl bod, mewn rhy ffordd neu’i gilydd, bod y pandemig wedi bod yn drech arna ni.
“Trio ennyn gobaith i ni o wybod bod hi’n bosib cario ‘mlaen gyda phethau fel hyn.”
Nawdd Cymdeithas y Penrhyn
Mae’r Plygain yn cael ei chynnal o dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Eglurodd ysgrifennydd y gymdeithas, Ceris Gruffydd bod angen i bawb sy’n dymuno mynychu i gofrestru yn gyntaf.
Maent hefyd yn gwahodd i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan i gysylltu cyn gynted â phosib.
Nodyn atgoffa gan y Cyngor
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi nodyn atgoffa i’r rhai sy’n bwriadu cynnal eu digwyddiadau wyneb-yn-wyneb dros yr Ŵyl:
“Wrth i adeg y Nadolig agosáu, atgoffir trefnwyr digwyddiadau cymunedol o’r pwysigrwydd i ddilyn holl reoliadau COVID-19, yn enwedig o ran cynulliadau cymdeithasol dan do ac yn yr awyr agored.
“Fel rheol, mae gwyliau’r Nadolig yn dymor arbennig o boblogaidd ar gyfer codi arian mewn cymunedau neu gynnal digwyddiadau cymdeithasol, ond yn aml gall hyn olygu nifer fawr o bobl yn dod at ei gilydd mewn un lle.
“Fodd bynnag, eleni mae’n rhaid i ni ystyried a ddylem drefnu neu fynychu digwyddiadau cymunedol sy’n debygol o ddenu crynoadau mawr o bobl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau cyswllt ag eraill y tu allan i’n cartrefi estynedig, lle bynnag y bo modd.
Mae rheoliadau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, ac felly’n destun newidiadau.