Cam pellach i ffurfio cymdeithas dai Barcud erbyn Hydref

Yng nghyfarfod blynyddol Tai Ceredigion, cytunodd y cyfranddalwyr i uno i ffurfio Barcud

Mererid
gan Mererid
Tai Ceredigion

Yng nghyfarfod blynyddol Tai Ceredigion dydd Mercher, 12fed o Awst 2020, cytunodd y cyfranddalwyr i newid eu rheolau, ac i newid enw’r corff i Barcud unwaith bydd y ddau gorff wedi eu huno. Bydd Cymdeithas Dai Canolbarth Cymru yn cwrdd ddydd Iau, 13eg o Awst 2020 i drafod yr uniad a’r gobaith yw y bydd y corff yn uno’n ffurfiol erbyn Hydref y 1af, yn amodol ar y caniatâd priodol.

Diolchwyd i’r tri aelod o’r Bwrdd sydd yn sefyll i lawr, Peter Stevens, Peter Deakin a Gwyn James. Mae aelodau o fwrdd Tai Ceredigion yn ddigyflog ac felly mae eu cyfraniad er budd y tenantiaid a’r gymdeithas yn un sylweddol. Bydd y broses o benodi aelodau Barcud yn mynd rhagddo yn fuan.

Cyflwynwyd y cyfrifon blynyddol yma am 2019-2020

https://taiceredigion.cymru/wp-content/uploads/2020/07/ARFS-2020-English-for-Website-v2.pdf

A derbyniwyd adroddiad ar lafar gan y Cadeirydd, Karen Oliver; y Prif Weithredwr, Steve Jones a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforol, Kate Curran.

Adroddwyd ar BroAber 360 yn flaenorol, am benderfyniad byrddau Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Thai Ceredigion Cyf i uno yn dilyn dwy flynedd o drafod.

Maes Arthur

Dwy gymdeithas dai yn ymuno i greu Barcud

Penderfynodd byrddau Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion Cyf i uno i greu Barcud

Barcud fydd enw’r corff newydd yn adlewyrchu canolbarth Cymru. Byddant yn cadw ei swyddfeydd presennol yn Aberystwyth (Glyn Padarn), Y Drenewydd a Llanbedr Pont Steffan.

Bydd yr uno’n creu corff fydd yn cyflogi 220 o bobl ac sydd â 4,000 o gartrefi wedi’u gwasgaru ar draws Powys, Ceredigion, Gogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. O’r 4,000 o gartrefi sy’n eiddo i’r grŵp, mae tua 1,600 yn eiddo i Dai Canolbarth Cymru a 2,400 o eiddo ym mherchnogaeth Tai Ceredigion. Mae gan Dai Ceredigion 150 o staff fydd yn ymuno a 80 o staff Tai Canolbarth Cymru.

Tai CeredigionNi fydd yr uniad yma yn arwain at unrhyw ddiswyddiadau, ac fe’i hystyrir yn gam nesaf naturiol i ddau sefydliad sydd wedi bod yn cydweithredu ers cryn amser beth bynnag. Nid oes disgwyl i denantiaid sylwi ar newidiadau mawr yn eu gwasanaeth, ond fe fydd ymgynghori yn cael ei gynnal gyda’r tenantiaid.

Mae 82% o staff Tai Ceredigion yn siarad Cymraeg, a gyda 150 o staff, maent yn un o gyflogwyr mwyaf Ceredigion.