Papur bro Yr Angor wedi dychwelyd i brint

“Fe aeth popeth yn ffantastig!”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ar gychwyn y Cyfnod Clo, daeth yn amlwg nad oedd modd i bapur bro Yr Angor, nag unrhyw bapur bro arall yng Nghymru, weithredu fel yr arfer. Oherwydd hynny, roedd gofyn am greadigrwydd a hyblygrwydd wrth gynllunio, er mwyn cynnal y gwasanaeth gwerthfawr hwn.

Covid-19: risg a chyfle i bapurau bro

Penderfynwyd dros 30 o bapurau bro yng Nghymru droi at gyhoeddi rhifynnau digidol yn ystod y cyfnod, gan sicrhau bod modd i ddarllenwyr dderbyn gwasanaeth di-dor. Yn ôl rhai, mae’r cyfle hwn wedi galluogi iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

Serch hynny,  penderfynwyd Yr Angor i atal rhag cyhoeddi am y tro, ar sail cyfyngiadau’r misoedd diwethaf yn ogystal â’r ffactorau ymarferol oedd yn eu hatal rhag mynd allan i’r gymuned i drafod a holi.

Yn ôl Megan Jones, “Doedden i ddim eisiau tynnu pobl allan o’u cartrefi” eglurai, “dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylwi faint o waith sydd yn mynd i gasglu storïau a chyfweld.”

Dychwelyd i brint

Yn wahanol i amryw bapur bro arall, mae Yr Angor wedi llwyddo i fynd yn ôl i brint erbyn hyn. Wrth drafod y profiad, dywed Megan Jones fod, “gennym ni system dda mewn lle, ac fe aeth popeth yn ffantastig.”

Mae’n ymddangos nad oedd prinder cynnwys chwaith, ac mewn gwirionedd, dywed fod y cyfnod clo a’r straeon a ddeilliodd o hynny wedi golygu bod mwy o destun i’w gynnwys.

Y dyfodol

Does dim amheuaeth fod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr iawn i bapurau bro Cymru, wrth i’r arfer o gyfarfod a thrafod, plygu a dosbarthu ddod i ben.

Er hynny, braf yw gweld Yr Angor yn ôl yn ein siopau ac ein cartrefi, mewn cyfnod ble mae newyddion lleol a’r ymdeimlad o berthyn yn fwy pwysig nag erioed.

Mae rhifyn mis Hydref ar gael nawr, felly cofiwch fachu copi!