Operation Julie – y sioe gerdd!

Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dod at ei gilydd i greu sioe gerdd seicedelig

Operation Julie - teitl dros dro

Dros bedwar degawd yn ôl, gorllewin Cymru wledig oedd ffocws y sgandal gyffuriau fwyaf mewn hanes. Canlyniad archwiliad yr heddlu, sef Operation Julie, oedd arestio dwsinau o bobl a darganfod LSD gwerth £100 miliwn. Mae sioe gerdd newydd sbon gan Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystyried y stori o’r ddwy ochr – o safbwynt yr heddlu, ac o safbwynt yr hipis a ymgartrefodd yng Ngheredigion gan obeithio rhannu eu delfrydau mewn byd oedd yn newid.

Yn ystod yr haf eleni roedd Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn bwriadu lansio cynhyrchiad uchelgeisiol ar y cyd ar gyfer cynulleidfaoedd yn Aberystwyth. Mae Operation Julie yn ddrama i’r llwyfan yn llawn cerddoriaeth, drama a chomedi, ac yn adrodd y stori eithriadol am yr hyn ddigwyddodd mewn rhai rhannau o orllewin Cymru ganol y 1970au. Dyma pryd y daeth hipis i ymgartrefu yn yr ardal i chwilio am ffordd newydd o fyw, a chael eu hybu gan gyffuriau ac agweddau amgen. Pan mae cliw yn cael ei ddarganfod ar hap yn dilyn damwain car, mae’r heddlu lleol yn gweithio gyda ditectifs ledled Prydain ac yn darganfod y guddfan fwyaf o asid a welwyd erioed – yn cynnwys hyd at 60% o farchnad LSD y byd ar y pryd.

Goresgyn y pandemig

Pan ddigwyddodd y pandemig yn sgil y Coronafeirws, daeth yn glir na fyddai’n bosib cyflwyno Operation Julie i gynulleidfaoedd byw yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ym mis Awst. Felly, penderfynodd Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau ohirio’r sioe tan wanwyn y flwyddyn nesaf. Er bod hyn yn siom fawr i’r ddau gwmni, aethpwyd ati heb oedi i wneud y gorau o’r sefyllfa, fel yr eglura cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Dafydd Rhys: “Er y byddai’n well o lawer gennym gyflwyno’r cynhyrchiad nawr, wrth gwrs, nid yw hynny’n opsiwn bellach oherwydd Covid – ond mae’n caniatáu i’r cast a’r tîm creadigol gwych ddod at ei gilydd a gwneud ymchwil a gwaith datblygu gwerthfawr ar y sgript, y cymeriadau a’r gerddoriaeth.”

Yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae’r ysgrifenwraig-gyfarwyddwraig Geinor Styles yn egluro sut aethon nhw ati i wneud gwaith ymchwil a datblygu er nad oedden nhw’n medru ymarfer yn gorfforol gyda’i gilydd. “Nid cyfarwyddwraig sy’n eistedd ac yn canolbwyntio ar y sgript ydw i,” meddai. “Rwy’n licio cael pobl ar eu traed ac yn symud. Mae’n haws datrys materion golygyddol wrth gyfarwyddo. Mae’n debyg mai dyma’r peth mwyaf rhwystredig a heriol i mi oherwydd dydy hyn ddim yn bosib dros Zoom. Fodd bynnag, mae ’na fanteision: mae’r tîm creadigol, dylunwyr, sain, AV a goleuo wedi medru ymuno â’r ymarferion neu wrando heb orfod bod yn yr ystafell yn gorfforol. Mae hyn yn wych i ni ac iddyn nhw, ac yn cryfhau’r elfen o gydweithredu. Mae eu cael nhw efo ni tra ydyn ni’n dal i ddatblygu’r sgript yn beth prin iawn, ond yn fonws mawr.” 

Hanes perthnasol

Mae Geinor Styles, sydd wedi bod yn datblygu’r cynhyrchiad ers 2014, yn credu bod y stori’n fwy perthnasol nag erioed yn sgil COVID: “Teimlaf, wrth i ni deithio trwy’r pandemig hwn, fod y stori tu ôl i gynhyrchu’r asid ac athrawiaeth gryno Kemp mewn wyth mil o eiriau, yn dod yn fwyfwy perthnasol i blaned sy’n cael ei dinistrio gan brynwriaeth a chyfalafiaeth.”  

Mae’n teimlo hefyd fod stori Operation Julie yn rhy bwysig i gael ei gohirio. “Cefais fy synnu pan sylweddolais mor berthnasol oedd y stori hon i ni sy’n byw mewn cyfnod pan mae’r hinsawdd yn newid yn frawychus o sydyn,” meddai. “Mae angen i ni, fel rhywogaeth, newid ein ffyrdd fel y gwnaeth hipis y ’60au a’r ’70au au hathroniaeth o ddymuno ‘dychwelyd yn ôl i’r ardd’. Pwysleisiwyd yr athroniaeth hon gan ein prif gymeriad Richard Kemp, gwyddonydd talentog a symudodd i Dregaron yn y 70au cynnar ac a greodd y ffurf buraf o LSD. Ef yw man cychwyn y stori gyfan: heb Kemp, nid yw Operation Julie yn bodoli.”

Mae fersiwn Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, o’r digwyddiadau yn adrodd y stori o’r ddwy ochr. Yn y cyfarfodydd Zoom gyda’r cast a’r criw, mae Geinor Styles wedi cyfarfod a chyf-weld amrywiaeth o bobl o’r ardal a’r cyfnod hwnnw, yn cynnwys Alston ‘Smiles’ Hughes, un o’r prif ddelwyr asid oedd yn rhan allweddol o’r gadwyn LSD o’i gartref diymhongar yn Llanddewibrefi, a Lydia Jones, merch y diweddar Dditectif Ringyll Richie Parry.  

Cerddoriaeth wrth ei gwraidd

Drama gerdd yw Operation Julie, fformat cyfarwydd i’r cwmni theatr hyblyg ac arloesol hwn. Cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd y sioe yw Greg Palmer, a bu’n gweithio gydag actorion-gerddorion dros fideo i greu’r sgôr: “Dwi erioed wedi rihyrsio sioe yn y modd yma o’r blaen. Fy null arferol yw bod yng nghanol pethau yn yr ystafell ymarfer, yn gweithio gyda’r actorion-gerddorion mewn ffordd organig. Mae hyn yn gwneud i’r cast deimlo’u bod nhw’n rhan o’r proses creadigol. Mae hynny’n amhosibl i’w gyflawni drwy Zoom, felly mae’r proses cyfan yn arafach ac yn fwy llafurus.”

Fodd bynnag, mae’r ffordd newydd yma o weithio wedi caniatáu i Palmer drafod hoff gerddoriaeth seicedelig y deliwr LSD Smiles, a’r recordiau a gafodd ddylanwad arno yn ystod cyfnod y ddrama. “Roeddwn yn f’arddegau yn y ’70au, yn gwrando ar y gerddoriaeth y byddai Smiles a’i griw wedi bod yn gwrando arni. Mae Smiles wedi cyfeirio at nifer o fandiau o’r cyfnod hwnnw – Caravan, Bob Dylan, Steely Dan. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn ers dechrau’r proses i sicrhau bod cerddoriaeth y ddrama yn adlewyrchu’r tueddiadau cerddorol hynny.” 

Mae Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn hyderus y bydd yr amser datblygu estynedig hwn yn sicrhau cynhyrchiad gwironeddol gofiadwy pan fydd Operation Julie yn cyrraedd y llwyfan o’r diwedd y flwyddyn nesaf. “Bydd Operation Julie yn gynhyrchiad theatr poblogaidd a phwysig,” meddai Dafydd Rhys. “Rydym yn gwbl ymrwymedig i’r stori Gymreig unigryw hon a gafodd effaith ledled y byd. Hefyd, bonws ychwanegol yw fod y gerddoriaeth yn ffantastig! Gall y gynulleidfa edrych ymlaen at wledd – noson wych o theatr ysgogol a phoblogaidd o’r safon uchaf.”