Nofel awdur o Geredigion am Blas Nanteos

Awdur o Geredigion, Jane Blank, yn cyhoeddi dilyniant i’w nofel am Blas Nanteos – The Dipping Pool

Mererid
gan Mererid

Cyhoeddodd Y Lolfa ail nofel hanesyddol Jane Blank – The Dipping Pool sydd yn rhagflaenydd ac yn ddilyniant i The Shadow of Nanteos.

Parhad yw’r nofel hon i stori teulu enwog Poweliaid Plas Nanteos, ynghyd â byd creulon a dirgel Ceredigion yn y ddeunawfed ganrif, mewn steil rhamant Othig.

Swynwyd yr awdur gyda Phlasty Nanteos a’i hanes wedi ymweliad fel plentyn. Magwyd Jane Blank yn Sheffield ond ymwelodd yn aml â theulu yng Ngheredigion. Ar ôl astudio Saesneg a Drama ym Mhrifysgol East Anglia, ymgartrefodd yn y Fenni i fagu ei phlant, gan ddysgu yn Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mhont-y-pŵl. Ar ôl cwblhau MA Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd, bu Jane yn tiwtora a darlithio’n helaeth ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau. Mae hi bellach yn byw yng Ngheredigion, yn gweithio fel tiwtor ysgrifennu ac i elusen amgylcheddol.

Seiliodd y nofel The Shadow of Nanteos ar y William ac Elizabeth Powell go iawn, sy’n cymryd meddiant o’r ystâd a’i thrysorau ar ddechrau’r nofel. Y trysorau yw’r cwpan tybiedig ‘Grail’ ac etifeddiaeth gyfoethog o emau, sydd i raddau yn cymryd meddiant cystadleuol o feddwl Elizabeth wrth i’r stori dywyllu.

Dywedodd Jane Blank: –

“Pan wnes i orffen ‘The Shadow of Nanteos”, collais y byd hwnnw a’r cymeriadau ynddo. Mae Plas Nanteos gymaint yn fwy na thŷ bonedd. Roedd ystadau fel yr un hon, a oedd, yn ei anterth yn cwmpasu dros 30,000 erw, yn fwy o ‘deyrnasoedd’ bach. Roedd un teulu yn berchen ar ac yn rheoli pentrefi cyfan. Roeddwn i eisiau nid yn unig archwilio bywydau’r sgweieriaid hyn, ond hefyd archwilio bywyd y bobl a oedd yn gweithio iddyn nhw; pobl fel fy nheulu i ar ochr fy mam. Wrth ddychwelyd i fyd Nanteos, fe wnes i fwynhau gweld y cymeriadau eto – ond roedd llawer ohonyn nhw, er enghraifft Cai, wedi darganfod wedi newid! ”

Mae Nanteos: The Dipping Pool yn agor pum mis cyn i’r Parch William Powell a’i wraig Elizabeth etifeddu’r plasty ac archwilio cefndir yr ystâd. Am y pedwar mis ar ddeg nesaf, mae’r naratif yn dilyn yr un amserlen â’r nofel gyntaf, tra bod cymeriadau ar gyrion y llyfr cynharach yn dod yn brif gymeriadau newydd.

Dywed Jane,

“Daeth The Shadow of Nanteos i ben yn sydyn, felly mae’r dilyniant yn datrys y stori, gan barhau pum mis ar ôl i’r llyfr gwreiddiol ddod i ben. Tra mae nifer fach o gymeriadau sydd yn The Shadow of Nanteos a ffocws tynn, clawstroffobig ar y tŷ a’r teulu, mae’r Dipping Pool yn amrywio’n eang ar draws ystâd helaeth Nanteos.”

Gan ennyn ymdeimlad cryf o le drwyddo draw a chyda lleoliadau go iawn y gall darllenwyr eu harchwilio, mae’r llyfr hwn yn sicr o apelio at unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffuglen hanesyddol a bywyd bonedd yng nghefn gwlad Cymru. Gan asio braint gyda thraddodiad ac ofergoeliaeth, daw byd treisgar, cyfrinachol Ceredigion o’r ddeunawfed ganrif i fywyd creulon.

Gellir prynu’r llyfr yn eich siop lyfrau leol neu ar Gwales.

Dyma trydedd nofel Jane ac mae ei gwaith yn ennill gwobrau ac yn cael sylw ar deledu a radio. Mae hi’n aelod o Lenyddiaeth Cymru ac yn un o’u ‘Ysgrifenwyr ar Daith’, gan berfformio ei gwaith yn gyhoeddus yn rheolaidd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Jane am ragor o fanylion: www.jane-blank.info