gan
Ohebydd Golwg360
Yn dilyn adolygiad gan Gyngor Ceredigion bydd gorsafoedd pleidleisio Cwmystwyth, Blaenpennal a Chapel Tyngwndwn yn Nhalsarn yn uno â gorsafoedd cyfagos.
Yn ddiweddar fe gymeradwyodd cynghorwyr yng Ngheredigion adolygiad o orsafoedd pleidleisio yn y sir. Dywedodd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ei bod nhw wedi ymweld â phob gorsaf bleidleisio fel rhan o’r adolygiad a’i fod yn “hyderus mai’r lleoliadau yma yw’r rhai mwyaf effeithiol i bleidleiswyr a staff etholiadol.”
Gorsafoedd fydd hefyd yn newid lleoliad:
- Ward Canol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra.
- Ward Rheidol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Dŷ’r Harbwr, Y Lanfa.
- Gorsaf bleidleisio i symud o’r hen ysgol yn Cross Inn ger Llanon, i’r hen ysgol, Pennant ger Llanon.
- Caiff y Feithrinfa yn Ysgol Gynradd Gymunedol Comins-coch ei defnyddio yn hytrach na’r ysgol.
- Gorsaf bleidleisio i symud o Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn.
- Gorsaf bleidleisio i symud o Gaffi Sali Mali i Festri Capel Bronant.
Etholiadau nesaf:
Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – Dydd Iau, Mai 7 2020.
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Dydd Iau, Mai 6 2021.