Un o’r Miliwn

Am dro ar  y prom

gan Medi James
Kirsty Lyra a Medi

Nodyn bach i barhau a’r newyddion diweddaraf gyda chynllun dysgu Cymraeg ‘Un o’r Miliwn’ sydd wedi ei ddechrau dan ambarél gweithgareddau Pwyllgor Dysgu Cymraeg Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Erbyn hyn mae gennym 44 o bobl wedi dechrau mewn dosbarthiadau Cymraeg dan nawdd y Brifysgol neu dros y we gyda SSiW – Say Something in Welsh. Yn ogystal mae pob un ohonynt yn derbyn cymorth ychwanegol gan siaradwr Cymraeg yn rheolaidd. Mae’r sesiynau yma yn digwydd dros y we ar y funud, yn y gobaith, unwaith y bydd covid yn ymbellhau, bydd y cymorth iaith yma’n gallu parhau dros baned neu mewn amrywiol gymdeithasau dros y Sir.

Yn y llun mae Kirsty a’i babi. Fe holodd fi, yn hytrach na chwrdd dros Zoom a fyswn i’n mynd am dro gyda hi a Lyra. Felly dyma ni ar y prom yn Aber, yn cadw’n pellter ac yn siarad Cymraeg yn uchel. Finnau’n synnu cymaint o eirfa roeddwn yn gallu ei drosglwyddo iddi hi wrth fynd am dro, ac wrth gwrs er mor ifanc y babi, roedd hithau hefyd yn clywed geiriau Cymraeg, ac yn eu gweld yr un pryd. Y ffordd ddelfrydol i ddysgu a chofio, gweld a dweud: ci, mor, cerdded, cicio’r bar, Rhiw Glais……

Yn ogystal â’r cymorth un i un gan wirfoddolwyr pob mis rydyn ni’n cwrdd yn rhithiol mewn Clonc Sadwrn. Math o fore coffi esgus i gwrdd â’n gilydd i hel clecs am fröydd pawb, ymarfer ynganu geiriau dieithr yn ogystal â chyfle i gynyddu hyder ac i ateb unrhyw gwestiynau trafferthus.