£1 miliwn i glybiau chwaraeon Ceredigion

Cist Gymunedol Ceredigion wedi buddsoddi £1 miliwn mewn clybiau chwaraeon lleol dros 20 mlynedd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae cronfa chwaraeon Ceredigion Actif wedi rhoi £1 miliwn mewn grantiau i glybiau chwaraeon yng Ngheredigion.

Nod Cist Gymunedol Ceredigion yw cefnogi sefydliadau sydd yn annog pobl i fod yn fwy egnïol. Daeth cadarnhad yng nghyfarfod y panel fis Rhagfyr fod y gist gymunedol wedi rhoi dros £1 miliwn i glybiau cymunedol yn y sir.

Un o’r rhain oedd clwb chwaraeon anabledd The Mighty Ducks yn Aberystwyth a fuddsoddodd yr arian mewn goleuadau synhwyraidd LED. Bydd mwy na 40 o blant gydag anghenion arbennig yn elwa o’r buddsoddiad yma.

Mae’r Cynghorydd Catrin Miles sy’n gyfrifol am Wasanaethau Hamdden y sir yn “ymfalchïo” yn y newyddion gan ddweud fod “Cist Gymunedol Ceredigion wedi chwarae rhan bwysig ym mwrlwm chwaraeon y sir, a hir y parhaed.”

 

Diolchodd Wendy Davies, Cadeirydd y gronfa i Gyngor y Sir a Chwaraeon Cymru am eu cymorth.

“Mae ein clybiau wedi elwa o’r cynllun, ac wedi datblygu i fod yn llefydd cymdeithasol”.

“Mae’r cynllun wedi galluogi cannoedd o hyfforddwyr a dyfarnwyr newydd gymhwyso ac i fuddsoddi mewn offer hanfodol o bob math gael eu prynu gan glybiau gwirfoddol”.

 

Mae’r gist gymunedol yn parhau i gefnogi clybiau Chwaraeon lleol. Bydd y ceisiadau nesaf yn cael eu ystyried ar 25 Ebrill 2019.

Am ragor o wybodaeth am sut gall eich clwb chi elwa dilynwch y ddolen i wefan Ceredigion Actif.