Mae Merched y Wawr wedi derbyn £50,000 gan y Loteri Genedlaethol er mwyn datblygu technoleg yn y gymuned, a buddsoddi yng nghanolfan genedlaethol y mudiad yn Aberystwyth.
Fel rhan o’r cynllun mae’r mudiad yn gobeithio cynorthwyo ei aelodau a’r gymuned trwy drefnu sesiynau ymarferol sydd yn ymateb i anghenion penodol lleol.
Bydd Merched y Wawr hefyd yn defnyddio’r cyllid i fuddsoddi mewn adnoddau fideo-gynadledda a byrddau gwyn rhyngweithiol fydd ar gael i’w defnyddio yn y ganolfan genedlaethol.
Cam ymlaen
Yn ôl Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, “Mae’r dechnoleg yn y ganolfan genedlaethol yn hen iawn ac yn achosi llawer o anawsterau – bydd hyn yn ein galluogi i weithio yn llawer mwy effeithiol, ac o fudd i grwpiau sy’n defnyddio’r ganolfan yn wythnosol.”
“Mae’r cyllid hwn yn mynd i sicrhau ein bod yn medru camu ymlaen a chynorthwyo ein cymunedau, ac i gynorthwyo aelodau sydd am ddatblygu sgiliau a dysgu mwy am dechnoleg.”
Addasu oherwydd Covid-19 ac edrych tua’r dyfodol
Fel nifer o fudiadau bu rhaid i Merched y Wawr addasu yn gyflym iawn oherwydd COVID-19.
Mae’r mudiad bellach yn cynnal pwyllgorau ar y we, ac wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau rhithiol fel yr Ŵyl Haf a’r Ŵyl Lenyddol.
Diolchodd Meirwen Lloyd, Llywydd Merched y Wawr, am y gefnogaeth ariannol sydd yn caniatáu i’r mudiad edrych tua’r dyfodol.
“Rydym wrth ein boddau bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith”, meddai’r Llywydd.
“Diolch i’r Loteri Genedlaethol, byddwn nawr yn gallu symud ymlaen â’n cynlluniau i ehangu’r ystod o gyfleoedd gyda thechnoleg o fewn ein cymunedau a datblygu ein canolfan gymunedol.”
Ychwanegodd y mudiad bod cynnal cyfeillgarwch, gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd, a chael hwyl yn allweddol bwysig i Merched y Wawr, ac o ganlyniad i’r clo mawr maen nhw wedi gweld manteision o ddefnyddio technoleg i gyfathrebu.
Y gobaith yw y bydd modd i rai o’r 6,000 o aelodau hefyd ddefnyddio’r dechnoleg newydd i baratoi deunydd ar gyfer Casgliad y Werin, a phodlediadau o waith llenyddol sy’n ymddangos yng nghylchgrawn tymhorol y mudiad, ‘Y Wawr’.