Marathon yn Mai

gan Llew Schiavone

Yn ystod mis Mai eleni bydda i a fy nheulu yn neud ‘Marathon yn Mai’.

Yn Marathon yn Mai mae rhaid i chi wneud marathon mewn mis er mwyn codi arian at elusen Tŷ Hafan.

Mae marathon yn 26.2 milltir neu 42.2 km. Efallai bod hyn yn swnio’n bell i blant, ac fe fyddai’n bell i redeg e i gyd mewn unwaith ond does dim rhaid i chi ei wneud i gyd mewn un rhediad – diolch byth!

Yr her ydy i’w wneud e mewn mis ond mae hyn dal yn dipyn o her.

Er hynny, dwi’n credu bod ni’n barod am yr her achos ers dechrau’r ‘lockdown’ coronafeirws rydw i a gweddill y teulu wedi bod yn rhedeg 1km yr un bob dydd yn yr ardd neu ar y stryd er mwyn cadw’n heini a gwneud bach o ymarfer corff.

Felly roedd yr her yma’n teimlo’n addas ac roedden i eisiau cefnogi’r elusen yma sy’n cynnig gofal i blant sâl iawn a chymorth i’w teuluoedd drwy Gymru. Maen nhw’n gwneud gwaith pwysig iawn.

Erbyn canol mis Mai rydyn ni wedi gwneud marathon yn barod felly nawr rydyn ni wedi penderfynu gwneud un arall erbyn diwedd y mis. Cawn weld os nawn i lwyddo.

Os hoffech chi ein noddi a chefnogi’r elusen bwysig yma drwy’r ddolen yma.