Llyfrau BroAber360 – Adolygiad “Y Gelyn Cudd”

Adolygiad o nofel dditectif Geraint Evans “Y Gelyn Cudd” fel rhan o ymgyrch Llyfrau Bro BroAber360

Steff Rees
gan Steff Rees

Adolygiad nofel dditectif wedi ei seilio ym Mae Ceredigion

Yn ddiweddar fe wnaeth BroAber360 osod her i ni’r brodorion lleol i greu adolygiadau byrion o lyfrau gan awduron o’r fro ac i enwebu brodor arall i ymateb i’r her y tro nesaf.

Gan fy mod yn fachan am her dyma adolygiad o’r nofel gwnes i ddarllen dros y penwythnos ar ôl tynnu cyhyr yn ymateb i’r her ddiwethaf o redeg 5 cilomedr i godi arian tuag at Tarian Cymru.

Y llyfr gwnes i ddewis (neu cafodd ei hala yn y post imi gan Mam) oedd nofel dditectif o’r enw “Y Gelyn Cudd” gan yr awdur a’r chwaraewr ukulele o Dalybont, Geraint Evans.

Cliciwch ar y fideo uchod am fy adolygiad o’r chwip o nofel yma.

Y brodor hoffwn enwebu ar gyfer gwneud yr adolygiad nesaf: Dilwyn Roberts-Young