Llongyfarchiadau, Taron!

Taron Egerton yn “lysgennad” i dref Aberystwyth ar ol ennill gwobr yn y Golden Globes

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Taron Egerton, sydd yn dod yn wreiddiol o Aberystwyth, wedi ennill gwobr am yr actor gorau mewn comedi/sioe gerdd yn y Golden Globes am ei bortread o Syr Elton John yn y ffilm Rocketman.

Er iddo gael ei eni ym Mhenbedw, symudodd ei deulu i Fôn pan roedd yn blentyn, ac yna i Aberystwyth pan oedd yn 12 oed. Hyd heddiw mae’r seren Hollywood, sy’n un o gynddisgyblion Ysgol Penglais, yn falch iawn o’i gysylltiad â’r dref mae’n ei galw’n gartref.

 

Dylanwad Canolfan y Celfyddydau 

Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn ganolbwynt i fywyd yr actor pan roedd yn ifanc.

Mewn cyfweliad â Bafta Cymru dywedodd Taron Egerton fod y ganolfan wedi cael dylanwad mawr ar ei yrfa.

“Pan oeddwn tua 14 neu 15 ymunais â Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a newidiodd fy mywyd yn llwyr.”

Yn 2005 aeth ymlaen i chwarae rhan yr Artful Dodger yn sioe lwyfan ‘Oliver!’ oedd yn cael ei pherfformio yn y Ganolfan.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan eu bod nhw “wrth eu bodd o glywed y newyddion bod Taron wedi dod yn fuddugol” a’i fod yn “llwyr haeddiannol” o’r wobr.

 

Testun balchder i Aberystwyth a Cheredigion

Disgrifiwyd llwyddant Taron Egerton gan Faer y Dref, Mari Turner, fel “testun balchder mawr i dref Aberystwyth”.

Aeth ymlaen i ddweud, “mae’n braf gweld dyn ifanc talentog yn llysgennad mor gadarnhaol i’n cymuned. Mae’n profi hefyd mor bwysig yw sicrhau cyfleoedd creadigol i bobl ifanc y dref er mwyn datblygu’u hyder a’u talentau unigryw.“

Ar ei chyfri Twitter dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones fod Ceredigion yn browd iawn o’i lwyddiant.

“Mae hwn i ti, mam”

Wrth dderbyn ei wobr yn California dywedodd Taron Egerton, “Mae’r rôl yma wedi newid fy mywyd, hwn yw profiad gorau fy mywyd, mae wedi bod yn anhygoel.”

Aeth ymlaen i ddiolch i Elton John: “Diolch am y gerddoriaeth, am fyw bywyd anghyffredin a diolch am fod yn ffrind i mi.”

Gorffennodd ei araith trwy ddweud bod y wobr yn deyrnged i’w fam, a oedd yn y seremoni’n gwylio.