Llanbadarn Fawr: Deiseb i leihau cyflymder

Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mesurau diogelwch ar gefnffordd A44 yn Llanbadarn Fawr

Mererid
gan Mererid

Mae’r Cynghorwyr Matthew Woolfall-Jones a Gareth Davies wedi lansio deiseb i ofyn i Lywodraeth Cymru wella diogelwch ffordd A44 yn Llanbadarn Fawr. Mae’r ymgyrch hefyd wedi derbyn cefnogaeth Elin Jones AS (Llywydd y Senedd).

Dywedodd Gareth Davies: –

“Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd. Mae’r terfyn cyflymder 30mya (milltir yr awr) ychydig cyn i chi gyrraedd y tro. Byddwn yn hoffi ymestyn yr ardal 30mya i’r troad am ystâd ddiwydiannol Glan yr Afon ac ymestyn y 40mya i ychydig cyn y Lovesgrove. Rwyf wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn flaenorol ynglŷn â hyn”

“Mae preswylwyr wedi cwyno bod pobl yn teithio’n rhy gyflym o amgylch yr ardal hon. Mae’n ffordd wyntog ac nid oes palmant.”

Ymateb Llywodraeth Cymru oedd

“Rydym wedi cwblhau adolygiad o derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru. Ystyriodd hyn lawer o wahanol ffactorau, gan gynnwys data damweiniau a chwynion a dderbyniwyd, i asesu’r angen am newidiadau i’r terfyn cyflymder, mesurau peirianneg neu orfodi.

“Bydd y rhan benodol hon o’r gefnffordd yn cadw ei therfyn cyflymder presennol ond, ar ôl ystyried y materion a godwyd gan gerddwyr, byddwn yn adolygu cyfleoedd croesi.”

Noda’r ddeiseb bod y A44 yn ffordd bwysig i gerbydau sy’n teithio i gyfeiriad Aberystwyth. Mae’r ffordd yn mynd heibio i’r ystâd ddiwydiannol, o dan y rheilffordd ac yn mynd drwy bentref poblog Llanbadarn Fawr.

Mae’n ffordd brysur i gerddwyr, beicwyr a thraffig trwm deithio. Yn aml iawn, rhaid i gerddwyr redeg o dan bont y rheilffordd gan nad oes llwybr troed a chroesi’r A44 ar gornel ddall ym Mwllhobi, sy’n rhan o’r pentref.

Mae’r cynghorwyr wedi anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru, ond ni chafwyd ymateb hyd yma.

Mae’r ddeiseb yn gofyn am y newidiadau yma: –
– terfyn cyflymder o 20mya,
– croesfan i gerddwyr ym Mhwllhobi
– twnnel ar gyfer llwybr troed o dan y rheilffordd.

Ydych chi yn cytuno a nhw? Beth am arwyddo’r ddeiseb?

https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/200206