Lladrad yn Aberystwyth dros y penwythnos

Heddlu Dyfed-Powys yn annog pobol i fod yn wyliadwrus

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog pobol i fod yn wyliadwrus yn dilyn lladrad mewn tŷ yn ardal Waunfawr, Aberystwyth.

Derbyniodd yr heddlu alwad am ladrad mewn tŷ pobol oedrannus am 2:21yh ddydd Sadwrn (Awst 22).

Roedd tri dyn, oedd yn honni eu bod o’r bwrdd dŵr, wedi denu sylw’r perchnogion wrth i arian gael ei ddwyn o’r ystafell ffrynt.

Gadawodd y tri dyn y tŷ fel roedd y perchnogion yn dechrau mynd yn amheus.

Dechreuodd yr heddlu wneud ymholiadau ar unwaith, gan chwilio’r ardal, mynd o dŷ i dŷ ac edrych ar CCTV.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys gan ddyfynnu cyfeirnod DPP/0051/22/08/2020/01/C.

“Yn dilyn y digwyddiad hwn, rydym yn annog pobol i fod yn wyliadwrus wrth ateb y drws i bobol ddiarth,” meddai Ditectif Arolygydd Antony Panter.

“Gofynnwch am ddull adnabod, ac os nad ydych yn sicr, peidiwch â gadael pobol i mewn i’ch tŷ a ffoniwch yr heddlu.”