Cyfrol unigryw o farddoniaeth yn llawysgrifen y bardd yw “Cerddaf O’r Hen Fapiau”. Mae nifer ohonom yn ymwybodol o waith Aled Jones Williams, sy’n wreiddiol o Lanwnda ger Caernarfon, fel dramodydd, nofelydd ac yn fardd. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad, ac mae bellach yn byw ym Mhorthmadog. Bu’n trafod yn onest fel rhan o’r noson ei frwydr gyda’i ffydd ac alcoholiaeth.
Dros y misoedd diwethaf derbyniodd nifer o gyfeillion y bardd gopi o “Cerddaf o’r Hen Fapiau” yn rhodd.
Roedd pob un yn unigryw, pob un yn gopi llawysgrif o gyfrol o tua 50 o gerddi (nid o anghenraid yr un rhai bob tro) wedi eu hysgrifennu yn ei law ei hun a’u rhwymo’n gain gan Susan Williams. Does dim dwy ohonynt yn union yr un fath. Roedd ei gyfeillion yn cynnwys Emyr Llewelyn, Cynog Dafis ac Arwel Rocet Jones, ac roeddent yn teimlo fod hon yn gyfrol mor bwysig fod angen sicrhau fod y gyfrol ar gael yn ehangach. Nid yw’r gyfrol yma ar gael yn y siopau ac mae manylion archebu’r gyfrol isod, gyda phob ceiniog o elw er budd Y Faner Newydd.
Cynhaliwyd y lansiad yn y Morlan, Aberystwyth, gydag agoriad gan Gwerfyl Pierce Jones, cyflwyniad gan Emyr Llewelyn, sgwrs rhwng Cynog Dafis a’r awdur, Aled Jones Williams, gyda darlleniadau gan Llinos Dafis, ac i orffen 4 can gan Manon Steffan Ros.
Mae sampl o gynnwys y noson wedi ei gynnwys yma: –
Mae’r cerddi i gyd yn fyfyrdodau ar ‘dduw’ (nid Duw sylwer) ac am yr ymchwil parhaus am y peth hwnnw.
Nid cyfrolau printiedig cyffredin fydd y rhain ond copïau ffacsimili o un o’r cyfrolau gwreiddiol hynny, a gweler copi isod yn nwylo cyflwynydd y noson, Gwerfyl Pierce Jones.
Meddai Aled Jones Williams, yn ei ragymadrodd i’r copïau a gyflwynwyd i’w gyfeillion:
“Go brin y gwêl y cerddi hyn olau ddydd heblaw yn y diwyg y cyflwynaf hwy i chwi yn y llyfryn bychan hwn.
Nid yw’r pwnc, na’r dull o’i fynegi, yn mynd i apelio at lawer yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni. Nid beirniadaeth o unrhyw fath mo hyn. Ffaith ydyw. Nid geiriau i ddisgrifio unrhyw beth sydd yma, ond geiriau sy’n symud o’r ffordd er mwyn creu lle. Y lle a grëir sydd oruchaf, nid yr hyn a ddywedir. Geiriau sy’n absenoli eu hunain ydynt.”
Gallwch lawr lwytho ffurflen archebu yma.
Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
Arwel Jones: rocetarwel@yahoo.com (07527198861)
Cynog Dafis: cdafis@me.com (07977093110)