Lansio Cerdyn Gofalwyr yng Ngheredigion

Lansiad Cyngor Sir Ceredigion Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu.

Mererid
gan Mererid

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, na fyddai’n gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain heb y cymorth na’r gofal y mae gofalwr di-dâl yn eu darparu.

Mae’r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod â llun, a gyhoeddir gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, i ofalwyr sy’n 18 oed a hŷn ac sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Cyngor Sir Ceredigion ac sy’n gwneud cais am Gerdyn Gofalwr.

Datblygwyd hyn mewn ymateb i bandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cysylltodd nifer o ofalwyr â Chyngor Sir Ceredigion i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am unigolyn pe bai rhywun yn eu herio pan fyddent yn casglu neu’n cludo nwyddau hanfodol i’r unigolyn hwnnw.

Mae gweithwyr gofal cyflogedig wedi cael llawer o ganmoliaeth briodol yn ystod y pandemig Covid-19.  Mae’r Cyngor am godi proffil gofalwyr di-dâl Ceredigion er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi yn y gymuned am eu holl waith caled.

Mae’r Cerdyn Gofalwr yn cadarnhau bod yr unigolyn a ddangosir ar y cerdyn yn ofalwr di-dâl a bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Gobeithir y bydd cael Cerdyn Gofalwr yn rhoi sicrwydd cydnabyddiaeth i’r Gofalwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yng Ngheredigion, yn ogystal â rhoi sicrwydd bod modd iddynt siopa ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt, os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Borth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau lles a Diwylliant, a Pencampwr Gofalwr:

“Mae’r Cerdyn Gofalwr yn ased amhrisiadwy gan ei fod yn cydnabod y bobl hynny sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn ein cymuned. Gwerthfawrogir eu gwaith caled, eu caredigrwydd a’u hymdrechion yn fawr ac rwy’n falch y bydd y Cerdyn Gofalwr yn fodd o roi’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu i ofalwyr, a gobeithio yn eu helpu i gyflawni tasgau cyffredin yn haws.”

Bydd y rhai gyda cardyn fanteision siopa o fewn y cynllun, a hyfforddiant neu hawl i freichiad. Mae rhestr o’r masnachwyr hynny, ynghyd â buddion eraill y cynllun, ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r Cerdyn Gofalwr yn rhywbeth newydd i Geredigion. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol a sefydliadau eraill er mwyn datblygu mwy o fuddion a ostyngiadau i’r rhai sydd yn dal y Cerdyn Gofalwr. Fyddai eich busnes chi a diddordeb mewn cynnig rhyw fath o ddisgownt neu gonsesiwn i ddeiliaid y Cardiau Gofalwyr? Cysylltwch â Uned Gofalwyr y Cyngor Sir.

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais am Gerdyn Gofalwyr Ceredigion yn RHAD AC AM DDIM ewch i’r wefan neu cysylltwch â’r Uned Gofalwyr trwy ffonio 01970 633564 neu anfon e-bost i carersunit@ceredigion.gov.uk.

Bydd Cerdyn Gofalwyr Ifanc hefyd yn cael ei ddatblygu a’i lansio ym mis Tachwedd.