Hwyl a Haelioni wrth gefnogi’r Urdd a Llamau

gan Medi James

Dydd Gwener bu cefnogwyr yr Urdd yn dangos ‘i hwyl a’i haelioni i’r elusen LLAMAU trwy wisgo mewn coch gwyn a gwyrdd. Pwy ‘ych chi’n nabod?  Ambell i enw sy wedi gwneud enw i’w hunan yn ddiweddar o Abermagwr i Dal-y-bont.

Fe lansiodd yr Urdd bartneriaeth gydag elusen Llamau adeg y Nadolig – elusen digartrefedd pobl ifanc a menywod bregus yw Llamau. Y gwirionedd yw bod y galw am eu gwasanaethau mor uchel ag erioed yn ystod cyfnod y Coronafeirws, ac maent mewn sefyllfa bregus iawn gyda digwyddiadau codi arian wedi dod i stop. Maent angen cymorth i brynu adnoddau i gefnogi pobl ifanc, menywod a phlant sydd yn eu gofal dros y cyfnod yma.

Felly trwy Gymru  heddiw mae oedolion a phlant wedi bod yn gwisgo coch gwyn a gwyrdd a chyfrannu’n hael. Hyd yma mae’r targed wedi ‘i ddyblu i dros £10,000.  D’yw hi ddim rhy hwyr, gallwch chi hefyd gyfrannu drwy decstio URDD a’r swm yr hoffech ei gyfrannu e.e. URDD5 i gyfrannu £5, at 70085. Mae tudalen JustGiving i gyfrannu arlein hefyd: www.justgiving.com/cochgwynagwyrdd