Gwyl Llenyddiaeth Trosedd Cymru yn dod i Aberystwyth

Cynhelir Gwyl CRIME CYMRU yn Aberystwyth yn Ebrill 2022 gyda cefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth a nifer o fusnesau yn y dref, cynhelir GWYL CRIME CYMRU cyntaf yn Aberystwyth ar benwythnos gŵyl banc rhwng Ebrill 30ain 2022 – Mai 2ail, 2022.

Beth yw hwn?

Mae Crime Cymru yn gasgliad o awduron llenyddiaeth trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol, ac wrth gwrs, a pherthynas gyda Chymru.

Mae gan Crime Cymru dri phrif amcan:-
– Cefnogi awduron trosedd sydd â pherthynas go-iawn a phresennol â Chymru;
– Helpu meithrin awduron talentog newydd;
– Hyrwyddo Cymru a’i diwylliant, gyda’r pwyslais ar lyfrau trosedd, yn fyd-eang.

Sut dechreuodd Crime Cymru?

Dechreuodd Crime Cymru pan gyfarfu tri awdur llenyddiaeth drosedd – Alis Hawkins, Rosie Claverton a Matt Johnson – yng Ngŵyl Lyfrau Caerdydd 2016. Dechreuwyd mudiad i hyrwyddo ffuglen troseddau Cymru. Dros y misoedd dilynol, llwyddwyd i berswadio awduron eraill i ymuno, dechrau siarad â threfnwyr gŵyl a gweithio allan yr hyn yr oeddem am ei wneud.

Dywed Alis

Together, the readers and writers of Wales can make a difference. We can drive the sales needed to get Welsh books into the bookshops of Britain, and to see our culture on the radar of other nations. Because if British publishers and booksellers start to take Wales seriously as both a setting and an incubator for crime fiction, translation rights will follow.

Beth mae Crime Cymru wedi bod yn wneud?

Am dair blynedd gyntaf ei fodolaeth, canolbwyntiodd Crime Cymru i ddarparu cefnogaeth i’r gymuned o awduron troseddau mewn sawl ffordd, ar-lein ac yn y byd go iawn. Yna, ym mis Ebrill 2020, penderfynodd yr aelodaeth fentro i ddechrau’r gwaith o feithrin awduron newydd a hyrwyddo Cymru a’i diwylliant, gyda’r pwyslais ar lyfrau trosedd, yn fyd-eang.

Beth sydd wedi ei gynllunio?

Felly, yn 2021 bydd Crime Cymru yn lansio ei gystadleuaeth nofel drosedd gyntaf ei hun.

Hefyd yn 2021, byddant yn cynnal Gŵyl Ddigidol Ar-lein am ddim.

Yn 2022 bydd yn cynnal ei gŵyl ffuglen trosedd genedlaethol gyntaf – Gŵyl CRIME CYMRU 2022 a hynny yn Aberystwyth.

Pam Aberystwyth?

Mae Crime Cymru yn awyddus i esbonio fod y berthynas gydag Aberystwyth yn ehangach na dim ond yr Ŵyl. Cwmni o Aberystwyth, Gwe Cambrian Web sydd yn dylunio eu gwefan, ac mae ganddynt gystadleuaeth dylunio logo gydag Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Zoom ar y 4ydd o Dachwedd.

Beth am weddill Prydain?

Er bod mwy na dwsin o wyliau ffuglen trosedd yn Lloegr, pump yn yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon, hyd yma, does dim gŵyl ffuglen trosedd yng Nghymru ac mae Crime Cymru yn benderfynol yr Ŵyl yma yn llwyddiannus iawn.

Am fwy o wybodaeth – ewch i’w gwefan.