Bnawn dydd Sul diwethaf, ar Ddydd Gŵyl Ddewi, cafwyd te pnawn yn Neuadd y Penrhyn, Penrhyn-coch. Trefnwyd y digwyddiad gan Bwyllgor Apêl Trefeurig, Eisteddfod 2020. Mae’r Pwyllgor wedi hen gyrraedd ei darged ariannol, ond teimlwyd y byddai’n beth da cynnal digwyddiad cymdeithasol lle byddai’r pwyslais ar ddathlu ein Cymreictod a cheisio cael mwy o bobl i wybod am yr Eisteddfod. Arweiniwyd y gweithgareddau gan Sara Gibson, Cadeirydd y Pwyllgor Apêl, fe ddaeth Elin Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, i agor y digwyddiad ac fe gafwyd eitemau gan rai o blant yr ysgol gynradd. Diolch yn fawr iawn iddynt hwy a’u hathrawon am ddod i gymryd rhan. Yna cafwyd te blasus, a digon o gyfle i gymdeithasu. Roedd hi’n braf iawn cael mentro allan ar ddiwrnod pan oedd y glaw wedi peidio a’r gwynt wedi gostegu. Fe godwyd £300 tuag at yr Eisteddfod.