Mae dau heddwas a roddodd eu bywydau mewn perygl er mwyn achub dynes fregus rhag boddi wedi eu gwobrwyo gan Heddlu Dyfed-Powys am eu dewrder.
Fis Awst diwethaf cafodd y Rhingyll Katy Evans a Chwnstabl Ian Chattun o Heddlu Dyfed-Powys eu galw i draeth Aberystwyth yn oriau man y bore yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch dynes oedd ger y dŵr.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys roedd hi’n glir i’r heddweision fod bywyd y ddynes mewn perygl, a rhuthrodd y ddau i’r dŵr ar ei hol. Roedd y tonnau garw yn gwneud hi’n amhosib i’r heddweision aros ar wyneb y dŵr, ond llwyddodd y Rhyngyll Evans i wasgu ei larwm argyfwng.
Eglurodd y Rhingyll Evans: “Er bod fy nillad amddiffynnol ac esgidiau trwm dal amdanaf, roedd rhaid i ni fynd fewn i’r dŵr.”
Ar ôl i Gwnstabl Chattun nofio i helpu’r ddynes fe dynnodd y Rhingyll Evans y ddynes i fan diogel cyn iddi gael ei chludo i’r ysbyty.
“Byddwn i’n gwneud yr un peth eto.”
Dywedodd y Rhingyll Evans ei bod hi’n aml yn cwestiynu beth fyddai hi’n gwneud pe bai’n wynebu’r un sefyllfa eto. “I fod yn gwbl onest, serch y peryglon a’r hyn gallai fod wedi digwydd, byddwn i’n gwneud yr un peth eto.”
“Pe bawn i’n gweld rhywun mewn perygl neu mewn trafferth, byddwn i’n mynd mewn i’r dŵr eto a gwneud pob dim o fewn fy ngallu i helpu.”