Gwobr i Barc Sglefrio Aberystwyth

Mae Parc Sglefrio Kronberg yn Aberystwyth wedi ennill gwobr Prosiect Amgylcheddol Gorau Cymru

Mererid
gan Mererid

Yng ngwobrau Un Llais Cymru 2020, mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi ennill gwobr ‘PROSIECT AMGYLCHEDDOL GORAU’ am barc sglefrio cymunedol Parc Kronberg.

Bu’n ddatblygiad hir iawn i Gyngor Tref Aberystwyth – gyda’r syniad gwreiddiol yn 2005 pan symudwyd y parc sglefrio gwreiddiol (oedd ar safle Meithrinfa Camau Bach a swyddfeydd Mudiad Meithrin) dros y ffordd ger yr afon. Nid oedd yr offer yn addas i gael ei symud, ac roedd y tir o’i amgylch yn flêr ac yn anniben.

Dechreuwyd trafodaethau gyda’r Cyngor Sir am les ar y tir gan ei fod ym mherchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion. Cafwyd grŵp o randdeiliad i drafod sut gellir gwneud cais am gyllid, ac roedd y fenter yn cael cefnogaeth lwyr Cyngor Tref Aberystwyth.

Yn dilyn sawl blwyddyn o waith caled, yn cynnwys ymgysylltiad cymunedol a chynllunio, mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi llwyddo i droi darn o dir diffaith ar lan afon yn barc cymunedol ac yn barc sglefrio y bu disgwyl mawr amdano. Yn 2016, ar y pedwerydd cais, cafwyd cadarnhad fod Cronfa Loteri Fawr yn fodlon ariannu rhan helaeth o’r gwaith gyda Chyngor Tref Aberystwyth yn ariannu’r gweddill.

Datblygodd Freestyle ddyluniad oedd yn rhoi parc ar gyfer yr holl gymuned – nid y sglefrwyr yn unig. Bu’r lleoliad yn allweddol i lwyddiant y parc. Mae’n rhedeg ar hyd darn o’r ffordd fawr sy’n dilyn glannau’r afon i mewn i’r dref, ac fe’i lleolir ar gyffordd i lwybr seiclo a llwybr cerdded yn agos at ddwy ysgol gynradd fawr, meithrinfa, gorsaf heddlu, swyddfeydd llywodraeth ac yn union gyferbyn â gwesty a thafarn. Mae hefyd o fewn pellter cerdded hwylus i ysgol uwchradd a stadau tai ac mae’n ganolog i ardal Cyngor Tref Aberystwyth.

Oherwydd ei leoliad mae’r parc sglefrio yn fwrlwm o weithgarwch ar ddiwedd diwrnod ysgol, ac mae’r parc yn fan cyfarfod ymlacio i rieni a neiniau a theidiau. Gellir cyrraedd y parc trwy groesfan (cerddwyr a beiciau) ger y Starling Cloud. Roedd diogelwch yn ystyriaeth hollbwysig wrth gynllunio’r parc. Mae’n llecyn agored sy’n weladwy iawn i draffig a cherddwyr sy’n mynd heibio. Mae’r parc yn cael ei ddefnyddio ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn, ni fu unrhyw adroddiadau o ymddygiad gwrth -gymdeithasol, ac un llwyddiant annisgwyl yw’r perthnasoedd cadarnhaol iawn rhwng gwahanol ddefnyddwyr y parc sglefrio.

Mae’n fychan o gymharu â’r parciau sglefrio mewn trefi eraill, sy’n golygu fod mwy o gystadleuaeth am le, ond er hynny mae sglefr fyrddwyr hŷn wedi bod yn gofalu am blant iau ar sgwteri, gan ddangos amynedd a gofal atynt a hyd yn oed eu mentora. Mae nifer o rieni wedi sôn am garedigrwydd rhwng y mynychwyr iau a hŷn ac maent hefyd wedi dweud fod lefelau sgiliau defnyddwyr wedi gwella.

Pryd agorwyd y parc?

Agorwyd y parc yn Rhagfyr 2017 gan Faer Aberystwyth, y Cynghorydd Steve Davies, Carol Ann Kolczak o Bwyllgor Gefeillio Kronberg, y Cynghorydd Lynford Thomas, cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a Rachel Richards o’r Loteri Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Davies: “Mae’r parc yn atgof parhaol o bwysigrwydd adeiladu pontydd gyda’n ffrindiau Ewropeaidd.”

 

Pam Parc Kronberg?

Mae Aberystwyth wedi gefeillio gyda Kronberg, tref yng ngorllewin yr Almaen. Fel y datblygwyd Coedlan y Parc ymhellach, galwyd y ffordd yn Boulevard St Brieuc (tref arall sydd wedi gefeillio ac Aberystwyth). Daeth dirprwyaeth o’r Almaen i weld y parc yn 2018.

Fel rhan o Ŵyl Beicio Aberystwyth ym mis Mai, mae Parc Kronberg yn leoliad perffaith ar gyfer cystadlaethau BMX.

Pam fod hwn yn brosiect amgylcheddol

Yn ogystal â’r parc sglefrio ei hun, mae’r ardal hefyd yn cynnwys llwybrau cerdded, seddi pwrpasol (sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer sglefr fyrddio a seiclo), ardaloedd picnic ar wair, llethr dringo ac eistedd yn ogystal ag ardaloedd ‘gwyllt’ er mwyn annog bioamrywiaeth. Cafodd ysgolion eu hannog i ddefnyddio’r ardaloedd gwahanol ar gyfer astudio bywyd gwyllt, dosbarthiadau ymarfer a dawns a ffotograffiaeth, a chafodd y parc ei gyflwyno i grwpiau pobl hŷn yn hafan o harddwch bywyd gwyllt er mwyn ymlacio, mynd am dro neu gynnal gweithgareddau.

Cafodd yr adeiladweithiau concrit a’r llecynnau palmantog eu lliniaru trwy blannu nifer fawr o goed brodorol a thrwy adael i lecynnau o bridd noeth adfywio. Roedd yr arddangosfa o blanhigion brodorol yn eu blodau yn yr haf yn rhyfeddol, ac roedd hefyd yn cyfoethogi a gwarchod cynefinoedd glan yr afon yn ogystal â chyfrannu at ddiffinio ffiniau’r parc. Yn ogystal â gwneud y parc yn harddach a chefnogi bywyd gwyllt, mae’r llecynnau gwyllt a’r coed hefyd yn cynnig mwy o breifatrwydd i stad dai cyfagos gan fod rhai o’r trigolion wedi ofni’n wreiddiol y byddai’r datblygiad yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ni fyddai wedi bod yn bosib adeiladu’r parc heb arian y Loteri Fawr, ond nid yw’r broses o wneud cais yn addas i’r gwangalon, nac i swyddfa heb adnoddau digonol, gan ei bod yn golygu llawer iawn o waith ychwanegol o ran cynllunio, rheoli a chyflwyno gwybodaeth. Ond mae gweld cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o’r parc yn cyfiawnhau’r holl waith caled.

 

Llongyfarchiadau mawr i Gyngor Tref Aberystwyth.