Oherwydd y coronafeirws bu rhaid gohirio holl ddigwyddiadau arferol Mudiad y Ffermwyr Ifanc, er hyn mae clybiau ar draws Ceredigion wedi dod ynghyd i gydweithio a’i gilydd i gefnogi y bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas sydd yn gorfod hunan ynysu.
Ar bodlediad arbennig gan Bro360 sy’n edrych ar sut mae grwpiau mewn cymunedau yn Arfon a Cheredigion wedi cael eu ffurfio dros yr wythnosau diwethaf dywedodd Eiry Williams o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon fod gwirfoddoli yn “ail natur” i aelodau’r mudiad.
Eglurodd Elin Rattray, Aelod Iau’r Flwyddyn Mudiad y Ffermwyr Ifanc fod y mudiad ar flaen y gad ac wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn ymhell cyn i gyfyngiadau’r llywodraeth gael ei rhoi mewn lle.
“Cyn i ni fel mudiad gynnig y syniad i’r clybiau, roedd y clybiau wedi dechrau cynllunio ymlaen.”
“Mae yn natur Clybiau’r Ffermwyr Ifanc i helpu’r gymuned.”
Cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi bod yn cydweithio gyda mudiadau fel y Ffermwyr Ifanc er mwyn dosbarthu bocsys bwyd i bobol ar draws y sir.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae swyddogion y Cyngor yn darparu bocsys bwyd ar draws Ceredigion. Rydym wedi cael cymorth sawl sefydliad, gan gynnwys Clybiau Ffermwyr Ifainc Ceredigion.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r cynnydd yn yr ysbryd cymunedol sydd wedi bod yn help i lawer o bobl ar draws ein sir.”