Gwasanaeth Nadolig Ysgol Gyfun Penweddig 2020 

Gwasanaeth gwahanol iawn i’r arfer!

Catrin Mai Davies
gan Catrin Mai Davies

Yn anffodus, amhosib oedd cynnal Gwasanaeth Nadolig blynyddol Ysgol Gyfun Penweddig yng Nghapel Bethel, Stryd y Popty, Aberystwyth yn ôl yr arfer eleni. Yn hytrach, crëwyd gwasanaeth rhithiol arbennig iawn gan staff a disgyblion yr ysgol. Mae wedi bod yn flwyddyn anarferol iawn i deulu Penweddig eleni, ond braf oedd medru dod â’r tymor cyntaf i ben mewn ffordd draddodiadol, gyda gwasanaeth yn dathlu doniau disgyblion yr ysgol. Gallwch wylio’r gwasanaeth ar dudalen Facebook yr ysgol. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd well i chi gyd! (Mae’r gwasanaeth yn cynnwys deunyddiau a recordiwyd cyn cyfnod y pandemig a deunydd cyfredol a recordiwyd yn unol a chanllawiau Covid-19.)

Linc i dudalen facebook Ysgol Gyfun Penweddig