gan
Catrin Mai Davies
Yn anffodus, amhosib oedd cynnal Gwasanaeth Nadolig blynyddol Ysgol Gyfun Penweddig yng Nghapel Bethel, Stryd y Popty, Aberystwyth yn ôl yr arfer eleni. Yn hytrach, crëwyd gwasanaeth rhithiol arbennig iawn gan staff a disgyblion yr ysgol. Mae wedi bod yn flwyddyn anarferol iawn i deulu Penweddig eleni, ond braf oedd medru dod â’r tymor cyntaf i ben mewn ffordd draddodiadol, gyda gwasanaeth yn dathlu doniau disgyblion yr ysgol. Gallwch wylio’r gwasanaeth ar dudalen Facebook yr ysgol. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd well i chi gyd! (Mae’r gwasanaeth yn cynnwys deunyddiau a recordiwyd cyn cyfnod y pandemig a deunydd cyfredol a recordiwyd yn unol a chanllawiau Covid-19.)