Grwpiau llawr gwlad lleol yn dod â phobol ynghyd ar-lein

Rhestr o grwpiau ar-lein yn ardal BroAber360 sy’n cynnig cymorth yn ystod y coronafeirws

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn sgîl y coronafeirws mae nifer o grwpiau wedi’u creu mewn cymdogaethau lleol i ddod a’r gymdeithas ynghyd a chefnogi’r bobol fwyaf bregus.

Dyma restr a manylion rhai o’r grwpiau all fod o gymorth i chi.

Grwpiau lleol

Cyfle i bobol rannu’r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i’w cymunedau nhw yw’r grwpiau lleol, ac mae hefyd yn gyfle i ddod â gwirfoddolwyr ynghyd i rannu rhifau ffôn er mwyn cysylltu â’r bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Aberystwyth – Grŵp Cymunedol Aberystwyth 

Llanrhystud – Grŵp gwybodaeth i wirfoddolwyr

Penrhyn-coch – Grŵp Cymuned Penrhyn-coch

Bow Street a Llandre – Grŵp cefnogaeth yn Bow Street a Llandre 

Tal-y-bont – Grŵp Covid Talybont

Borth – Cefnogaeth Coronafeirws Borth

 

Ceredigion a thu hwnt:

Yn ogystal â grwpiau lleol mae hefyd grwpiau sirol a chenedlaethol sydd yn ceisio codi gwên neu roi cymorth.

Cer-o-na-feirws – ni’n ’neud y pethau positif

Fel rhan o ymateb Bro360 i’r heriau, mae’r grŵp yma yn annog pobol i rannu llwyth o bethau bach positif e.e. cynlluniau helpu cymdogion, fideos yn rhannu talentau a sgiliau, gweithgareddau i gadw plant yn dawel a tips ar sut i tips ymdopi yn y cyfnod rhyfedd yma. Mae sawl llun o’r gwanwyn yn ymddangos wedi’u rhannu heddiw, er enghraifft!

Cefnogaeth Coronafeirws Ceredigion

Fel mae’r enw’n awgrymu, grŵp cefnogaeth yw hwn lle gall pobol o bob cwr o’r sir rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’i gilydd.

CÔR-ONA!

Un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd yw’r grŵp CÔR-ONA! a grëwyd gan Catrin Toffoc o Ynys Môn. Mae’r dudalen sydd â dros 15,000 o aelodau o bob cwr o Gymru yn annog pobol i gyd-ganu i godi calon.

 

Pa dudalennau lleol eraill sydd i’w cael? Rhowch wybod yn y sylwadau isod (crëwch gyfri / mewngofnodwch i’r wefan hon yn gynta)