Gohirio Marchnad Ffermwyr Aberystwyth oherwydd Storm Dennis

O Storm Ciara i Storm Dennis: rhybudd melyn i Gymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Tywydd garw yn Aberystwyth – Llun Golwg360

Wrth i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig geisio dygymod â dinistr Storm Ciara, mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybuddion am y storm nesaf, Storm Dennis.

Oherwydd y rhagolygon mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth wedi penderfynu gohirio’r farchnad oedd fod i gael ei gynnal dydd Sadwrn (Chwefror 15), nes y dydd Sadwrn canlynol (Chwefror 22).

GOHIRIO FARCHNAD 15.2.20MARKET POSTPONED 15.2.20Yn anffodus oherwydd Storm Dennis a'r rhybudd tywydd a gyhoeddwyd ar…

Posted by Marchnad Ffermwyr Aberystwyth Farmers' Market on Thursday, 13 February 2020

 

Yn ôl y rhagolygon fydd Storm Dennis ddim mor eithafol â Storm Ciara ond mae disgwyl y bydd yno wyntoedd cryfion a glaw trwm y penwythnos hwn.

Rhybudd melyn o wynt a glaw

  • Mae rhybudd melyn am wynt gan y swyddfa dywydd rhwng 10yb ddydd Sadwrn tan 11yh nos Sul.
  • Mae disgwyl gwyntoedd 70mya ar hyd arfordir y gorllewin, a fydd ar ei gryfaf prynhawn Sadwrn.
  • Mae hefyd disgwyl hyd at 80mm o law dros y penwythnos.