Gofal plant i weithwyr rheng flaen Ceredigion

Gofal i blant gweithwyr rheng flaen er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgolion yn cau oherwydd lledaeniad COVID-19, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaeth gofal plant i weithwyr rheng flaen yng Ngheredigion.

Bydd plant i weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Gofal yw’r gwasanaethau a hawl i ofal plant er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau rheng flaen.

Mae pum lleoliad ar draws Ceredigion a fydd yn darparu gofal plant o ddydd Llun, Mawrth 23:

  • Ysgol Gymraeg Aberystwyth
  • Canolfan Integredig Plant (Canolfan Enfys Teifi)
  • Ysgol Gynradd Aberaeron
  • Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach
  • Ysgol Y Dderi, Llambed

Er hyn, dywedodd Cyngor Ceredigion gall y lleoliadau hyn newid yn amodol ar y galw.

Gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos

Bydd y gwasanaeth ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8.00yb a 6.00yh hyd nes y bydd yr ysgolion yn ail-agor.

Ni fydd y gwasanaeth yn darparu bwyd felly bydd disgwyl i rieni ddarparu pecyn bwyd i’w plant.

 

Ffurflen gofrestru gwasanaeth gofal plant i weithwyr rheng flaen Ceredigion