Gemathon Iestyn a’i frodyr er budd Kids Cancer Charity

Mae mis Medi yn fis codi ymwybyddiaeth o ganser mewn plant a bydd Siôn, Iestyn, Mabon ac Owain yn cynnal gemathon i godi arian i Kids Cancer Charity.

Iestyn Dafydd Phillips
gan Iestyn Dafydd Phillips

Ymarfer ar gyfer y gemathon

“Byddwn ni’n chwarae gemau yn ein tro am 12 awr”  meddai Iestyn. “Rwy’n gobeithio na fydd hyn yn rhy anodd i fi achos rwy’n hoffi chwarae gemau cyfrifiadurol yn fawr, yn enwedig Minecraft a FIFA20.  Ond falle fydd hi’n anodd i mi gychwyn am 8 y bore gan mod i fel arfer yn cysgu bryd hynny”.

“Un o’r pethau gorau am chwarae ar y cyfrifiadur yw medru sgwrsio gyda ffrindiau a chwarae gyda nhw o bell. Mae hyn wedi helpu lot yn ystod y cyfnod clo a hefyd cyn hynny pan doeddwn i ddim yn medru mynd i’r ysgol na gweld neb”.

“Fi fydd yn dechrau yn y bore” meddai Mabon “gan mod i’n codi’n gynnar, dim fel fy nau frawd mawr”.

“Mae’n cefndryd ni yn mynd i ymuno mewn hefyd” meddai Owain.  “’Da ni’n hoffi chwarae gemau efo nhw o bell”.

“Rydym yn hapus dros ben i fod wedi cyrraedd ein targed gwreiddiol yn barod ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu” meddai Siôn “ond rydyn ni gyd am barhau i godi gymaint â gallwn ni cyn y gemathon.”

Mae Kids Cancer Charity yn cefnogi plant a’u teuluoedd sy’n mynd drwy amseroedd anodd dros ben.    Os hoffech noddi’r bechgyn a chefnogi’r elusen bwysig yma gallwch wneud hynny yma.

Ymarfer ar gyfer y gemathon