Geiriau i’n Cynnal 3: Duw trosom ni

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 5ed Ebrill, 2020: Geiriau i’n cynnal

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Duw trosom ni

Anwyliaid yr Anwel,

Ma ’na dipyn llai o drafnidaeth yn gwibio heibio’n tŷ ni y dyddiau hyn nag a fyddai’n arferol. Bron yn ddieithriad ar fore Sul ar drothwy’r Pasg mi fyddai rhes ar ôl rhes o feiciau modur o gyffiniau Birmingham a thu hwnt yn frwm-frwmian heibio a sgrech eu peiriannau’n fyddarol wrth iddynt ymdroelli eu ffordd i gyfeiriad y prom a glan môr Aberystwyth – ond nid felly eleni. Daeth newid i drefn arferol bywyd, strydoedd gwag a chanolfannau poblog yn amddifad o bobl a rhyw dawelwch sy’n anesmwytho wrth i’r haint fynd ar gerdded.

Bron na chawsom ein cyflyru i feddwl fod sŵn yn rhan annatod o’n bywyd. O’r foment y deffrown hyd y foment y rhown ein pen i orffwys cawn ein bombardio ganddo, ac ar yr adegau prin hynny pan gawn ein hunain mewn sefyllfa o dawelwch, mae’n brofiad mor  chwithig nes peri i ni, mewn syndod, holi – i ble’r aeth y sŵn?

Mae’n Sul y Blodau – Sul ym mhenllanw’r Grawys a chychwyn yr Wythnos Fawr – ac mae’n rhyfedd, wrth inni olrhain yr hanes, fod ymhlith y digwydd hwnnw hefyd seiniau penodol, seiniau’r dioddefaint: sŵn ceiliog yn canu, sŵn dŵr mewn basin, sŵn merched yn wylo, sŵn morthwyl yn dyrnio, sŵn milwyr yn gwawdio, sŵn arian yn taro ar lawr.

Yn wir, mae Drama’r Pasg yn cychwyn ynghanol sŵn – sŵn tyrfa’n gweiddi – ac mae Abiah Roderick yn ei gerdd “Prynhawn y Grog” yn ein hannog i glustfeinio ar gynnwys y dweud:

A glywi di’r dyrfa – y dyrfa’n mynd h’ibo

Ac yn gyrru’r truan o’i bla’n tua’r bryn?

Fynte â’i ysgwydd yn friw dan groesbren,

A’i wyneb, O wyneb anfarwol wyn.

 

Y ddo‘ roen nhw’n gweiddi yr uchel hosanna

A hwn yn ca’l palmwydd yn garped iddi dra’d,

A’r dyrfa fu ddo’ yn gweiddi hosanna

Yw’r un dyrfa sydd heddi yn gweiddi – “Gwâd“.

 

“Bendigedig yw’r hwn a ddaw yn enw’r Arglwydd,”

Ond y ddo’ o’dd hynny yn y gweiddi mawr,

Y ddo’ bu’r ddinas yn chwifio baneri, a hwn yn Frenin

– Ond beth yw e’ nawr?

A dyna un o’r pethau mwyaf arwyddocaol ynglŷn â’r Pasg oedd y perswâd a’r dylanwad a gafodd llais tyrfa ar y digwydd. Gall y llais hwnnw weithiau fod yn un bygythiol a heriol, a hynny am fod cynifer ymhlith y rhengoedd. Awgrymodd un hanesydd o’r cyfnod hwnnw fod yna dros ddwy filiwn o bobol wedi ymgynnull yn Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw, ac mi fyddai cyfran fechan o rif felly yn gwneud tyrfa rymus, a dweud y lleiaf.

Mae’n amlwg hefyd fod yr awdurdodau Rhufeinig yn ymwybodol y byddai’n rhaid rhoi clust i ofynion tyrfa o’r fath, rhag ofn i bethau fynd yn flêr, ac efallai mai hynny sy’n esbonio pam fod Peilat, rhaglaw Judea, wedi dod lawr o Gesarea i gadw llygad ar y sefyllfa y Pasg hwnnw.

Fuoch chi erioed ynghanol tyrfa – ar gae chwarae neu mewn pafiliwn steddfod, mewn protest gyhoeddus neu mewn capel dan ei sang – a theimlo’r cyffro sy’n medru cerdded trwy gynulliad felly? Teimlo ymchwydd emosiwn sy’n peri i chi ymateb mewn modd arbennig, na fyddech wedi mentro gwneud pe byddech yno ar eich pen eich hunan, yn cael eich cario gan afiaith a sŵn y dyrfa?

Wrth gwrs, medr y profiad weithiau fod yn un gorchestol a chithe yn medru dweud amdano wedyn – ‘Ron i yno, wyddoch chi!’

Dro arall, gall ffrensi’r dorf ein cyflyru i ymateb yng ngwres y foment a dweud rhyw bethau, neu wneud rhyw bethau, a barodd ein bod ni’n edifar wedyn – ond yng nghanol berw’r dorf ry’n ni’n mabwysiadu’r gri ac yn gweithredu’n gytûn.

A thyrfa wedi ei chyflyru gan emosiwn oedd yr un sy’n codi ei llais yn ystod yr wythnos gofiadwy honno yn hanes y byd pan drodd Iesu ei wyneb i gyfeiriad Jerwsalem am y tro olaf. Roedd ef  a’i ddisgyblion wedi dod i fyny o Jerico, gan deithio trwy bentref Bethffage, y man lle y cofiwn i Iesu gael benthyg ebol asyn i hwyluso’i daith. Ond fe aeth y sôn ar led ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem, ac o fewn dim roedd tyrfa sylweddol wedi ymgynnull; ac yr oedd i’r dyrfa hon rôl arwyddocaol yn nigwyddiadau’r Pasg cyntaf.

Tyrfa yn codi stŵr, a’r hyn sy’n cael ei fynegi yn amrywio wyneb yn wyneb â’r amgylchiadau. Tyrfa anwadal – tyrfa sy’n newid ei meddwl ac yn newid ei chân – a chanlyniad y newid hwnnw yn llwyddo i wyrdroi hanes ein byd.

Ie, tyrfa felly o’dd hon – Tyrfa Sul y Blodau yn mynegi gorfoledd gorffwyll wrth iddi drefnu gosgordd brenhinol i groesawu Iesu i Jerwsalem ar gefn ei ebol asyn, ond o fewn pum niwrnod yn ffurfio ei osgordd i’r groes gan weiddi: “Croeshoelier Ef – ymaith ag Ef, nid oes gennym ni yr un brenin, ond Cesar.”

“Hosanna i Fab Dafydd – Bendigedig yw yr hwn a ddaw yn enw’r Arglwydd” oedd y gri ar Sul y Blodau, a’r dyrfa bryd hynny wrth ei bodd yn ei groesawu i Jerwsalem.

Efallai ein bod wedi gwneud gormod o’r awgrym taw rhyw wedd sentimental sydd i’r darlun hwnnw o ebol asyn yn cerdded ar hyd llwybr wedi ei balmantu â brigau o’r palmwydd a bod y croeso i Iesu yn un brenhinol – yn llawn rhwysg a defod. Ond gwrandewch ar grir dyrfa – ma’n nhw’n gweiddi – “Hosanna” (Marc 11: 9) ac ystyr y gair ‘Hosanna’ yw ‘Achub ni, gwared ni’.

Mi fydd y Pasg eleni yn hynod oherwydd y gwaharddiad i ymgynnull a chyfarfod. Ond nid yw hynny’n diddymu’r neges, sef bod Iesu Grist wedi mynd i’w groes trosom ni i’n gwaredu.

Pobl y Pasg mewn Groglith o fyd – dyna yw’r eglwys Gristnogol yn ei hanfod. Pobl â newyddion da i’w rhannu a Christ Deinamig i’w gynnig. Ynghanol pob argyfwng, ynghanol cwestiynau nad oes iddynt ateb a thristwch nad oes iddo ymwared, y mae ’na “Ŵr dirmygedig sy’n gynefin â dolur, yr Hwn a gymerth ein gwendid ni ac a ddug ein doluriau ni.” Y mae ef yno ynghanol pob adfyd a chaledi, yn uniaethu â dioddefaint y byd, am iddo yn ei gariad anhraethol ein prynu ni i fywyd trwy ei waed.

“Efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni … (Eseia 53:5)

Ef yw’r Un sy’n dal i ddod i’n hymyl ni a’n cymell i dawel blygu a chredu ac ymddiried ynddo.

 

Dwy astell a gaed i estyn – i fyd

Dan ei fai a’i ddychryn,

Un i’w harbed a’u derbyn

yn frawd ar gofiadwy fryn.  (PMT)

 

Boed i Dduw barhau i’n cynnal a’n cysgodi mewn dyddiau anodd.

Cofion cynnes,

Peter

DARLLENIADAU: Eseia pennod 53 ;  Marc 11.1–11

Gweddïwn:

O Dad, cynorthwya ni i’th ganfod di yn ein cyfeillach o gylch y Gair a synhwyro dy fod yma wrth ein hymyl. Bendithia ni, bwrw dy gysgod trosom a maddau i ni bopeth nad yw’n brydferth yn ein bywydau. Helpa ni i arddel enw Iesu, i ymgysegru o’r newydd i’w waith a’i wasanaeth ac i gael ein huno’n un ynddo Ef.

Ar drothwy’r Pasg  gad i ni olrhain o’r newydd y “llwybr a gerddodd Efe” ac mewn dwyster a rhyfeddod i sylweddoli mai trosom ni y “rhoes Efe ei ddwylo pur ar led a gwisgo’r goron ddrain.”

Ac er bod ugain canrif yn gwahanu’r digwydd, gad i ni, O Dad, brofi cymdeithas ei ddioddefiadau, a grym ei atgyfodiad ym mhrofiad y funud hon.

Diolchwn ei fod ef yn camu i ganol ein bywyd yn barhaus – yno yng nghanol ei sŵn a’i fwrlwm, ei ddychryn a’i ofid, ei bryderon a’i ansicrwydd – yn estyn inni o’i dangnefedd a’i nerth. Diolchwn ei fod e’n gyson gerdded palmentydd ein sefyllfaoedd ni – yno yn Un i’w ganfod a’i adnabod, i ymddiried ynddo a’i dderbyn yn Waredwr ac yn Achubwr, yn Arglwydd Bywyd ac yn Arglwydd ein bywydau ni.

Amen.

Fioledau