Gavin Allen am “newid diwylliant” Clwb Pêl-droed Aberystwyth

Y rheolwr newydd am roi ei stamp ar y clwb

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae rheolwr newydd Aberystwyth, Gavin Allen, wedi dweud ei fod yn awyddus i “newid diwylliant” Clwb Pêl-droed Aberystwyth, gan roi ffydd mewn talent leol a charfan ifanc.

Cafodd ei benodi yn rheolwr y clwb ar Fehefin 6, gan gymryd lle Matthew Bishop.

Roedd Gavin Allen wedi bod yn bennaeth datblygiad ieuenctid a chymunedol ers 2018.

Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd ei fod “wrth ei fodd i gael ei benodi fel rheolwr.”

Ymunodd Gavin Allen ag Aberystwyth fel chwaraewr yn 1996 ac aeth ymlaen i sgorio 113 o goliau mewn 238 gêm yn ystod tri chyfnod gwahanol gyda’r clwb.

 

“Prosiect”

“Rydym wedi cael llwyth o reolwyr yn y clwb hwn, gyda 15 i 16 o chwaraewyr yn dod o i ffwrdd ac rwyf yn bwriadu newid diwylliant y clwb,” meddai mewn cyfweliad ar sianel YouTube y clwb.

“Dw i am edrych at ieuenctid, edrych ar yr hogiau ifanc sydd gennym yn y clwb.

“Mae hwn yn mynd i fod yn brosiect dros y blynyddoedd nesaf lle dw i eisiau newid meddylfryd y clwb.”

“Byddwn yn garfan ifanc eleni, ond byddwn yn garfan ffit.”