Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bydd gwaith y brodyr Sparnon a ddaw yn wreiddiol o Gastell Nedd yn cael ei arddangos yn Arad Goch a hynny am y tro cynta gyda’i gilydd.
Tomos Sparnon
Ar ôl graddio mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe treuliodd Tomos gyfnod fel artist preswyl yn y coelg. Mae bellach yn mwynhau dianc i’r sied yn waelod yr ardd i weithio ar ei ddarnau diweddaraf.
Mae’r artistiaid sy’n ei ysbrydoli yn “amrywio o hen feistri fel Rembrandt a Titian i artistiaid Cymreig fel Siani Rhys James a Kyffin Williams”.
Owain Sparnon
Yn dilyn ôl troed ei frawd mae Owain yn yr un modd a Tomos bellach yn ei ail flwyddyn yn astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe. Disgrifiodd Owain ei frawd “fel dylanwad mawr” arno a’i bod hi’n “hyfryd gallu arddangos ei waith naill ochr ag ef.”
A welsoch chi ein fideo o Tomos ac Owain ar ein tudalennau cymdeithasol? Os ddim, dyma’r fideo isod!