Dros y penwythnos cynhaliwyd ffotomarathon go unigryw – dros bedwar diwrnod penwythnos y Pasg gosododd trefnwyr gŵyl FfotoAber a’r ffotomarathon flynyddol her i’w dilynwyr. Yr her oedd i dynnu pedwar llun ar bedair thema dros bedwar diwrnod.
Gosodwyd y thema bob dydd am 10 y bore ac roedd angen i bawb uwchlwytho eu lluniau cyn 7 y noson honno gydag enillydd unigol bob dydd yn cael ei gyhoeddi y bore canlynol. Ar ddiwedd y pedwar diwrnod cyflwynwyd gwobr ar gyfer y set orau o bedwar llun.
Y themâu osodwyd oedd, Pren, Melyn, Rhif ac Adlewyrchiad a derbyniwyd dros fil o luniau yn gyfan gwbl.
Yr enillydd am y set orau o bedwar llun oedd Rhian Lowri o Drefeurig oedd wedi dewis y thema o dapiau dŵr a’r delweddau hynny yn llifo drwy’r pedwar llun. Gellir gweld eu lluniau ar y dudalen hon.
Y wobr oedd taleb £30 i Medina ond mae Rhian wedi ei ddefnyddio i gyfrannu at gynllun Medina sy’n prynu ciniawau i staff y GIG.
Yr enillwyr unigol oedd Rhodri ap Dyfrig, Harriet McDevitt-Smith, John Gorman a Dylan Meirion. Y gwobrau iddynt hwy oedd talebau Ultracomida a thocyn llyfr.
Penderfynwyd cyflwyno un wobr hefyd i’r rhai iau am y set orau a dyfarnwyd honno i Hedydd Beechey (9 oed) o Landre – bydd hithau yn derbyn tocyn llyfr.
Y beirniad oedd Aled Jenkins sydd erbyn hyn wedi blino’n lân,
“Roedd y gwaith o feirniadu, er yn bleserus iawn, yn waith hynod o anodd a hynny gan fod y safon mor aruthrol o uchel. Gallwn fod wedi gwobrwyo sawl un bob dydd. Hoffwn annog unryw un i ymweld â thudalennau Instagram, Twitter a facebook FfotoAber i weld y cyfoeth o luniau – maen nhw yn bendant gwerth eu gweld.”
Ewch i sianeli cymdeithasol FfotoAber i weld yr holl ymdrechion gan gynnwys lluniau’r enillwyr.