Ffotomarathon gwahanol yn y cartref (dydd Sadwrn)

Harriet McDevitt Smith yn ennill yr ail gystadleuaeth ar y thema ‘melyn’.

gan Deian Creunant

Cafwyd ail ddiwrnod llwyddiannus tu hwnt yn ffotomarathon Pasg FfotoAber gyda dros 300 o bobl y tro hwn yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw.

Thema’r ail ddiwrnod oedd Melyn ac mae’n bosib gweld yr amryw geisiadau drwy ymweld â sianeli Twitter, Facebook ac Instagram FfotoAber a chwilio am yr hashnod #ffotomarathonpasg.

Cafodd Aled Jenkins, y beirniad, noson brysur arall gyda’r safon yn parhau yn aruthrol o uchel.

Roedd am grybwyll yn arbennig a rhoi clod i luniau John Gorman, Ffion Davies a Rhodri Edwards.

Ond yr enillydd am y dydd Sadwrn oedd Harriet McDevitt Smith gyda’r llun isod gan ei fod yn dangos defnydd da o olau.

Bydd yn derbyn taleb ar gyfer siop flodau no 21 yn Aberystwyth..

Llongyfarchiadau iddi hi ac i bawb a gymerodd ran.

Y thema ar gyfer heddiw (Sul) yw Rhif – y wybodaeth lawn ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber.