Dewch yna – o bob cwr i gofrestru a mwynhau. Bydd yn weithgaredd i’w wneud gyda’r teulu, neu ar eich pen eich hun, yn rhithiol ac yn ddiogel. Mae croeso i bawb a mae pawb am fwynhau.
Fel arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn byddai llu o bobl o Aberystwyth a’r cyffiniau yn edrych ymlaen yn eiddgar at y ffotomarathon flynyddol.
Yn cael ei chynnal yn draddodiadol ar Sadwrn cyntaf gwyliau hanner tymor yr Hydref, y nod yw cymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol. Mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu na all criwiau ddod at ei gilydd wrth gwrs ond dyw hynny ddim am atal criw FfotoAber rhag cynnal y gweithgaredd.
Y nod yw cynnal y ffotomarathon yn ei ffurf draddodiadol, o leiaf o safbwynt chwe thema, chwe awr a chwe llun ond bydd angen i’r cystadleuwyr gyflwyno eu lluniau yn ddigidol ar ddiwedd y dydd er mwyn iddynt gael eu beirniadu ar lein.
Felly yn wahanol i’r arfer ni fydd angen i unrhyw un fod yn Aberystwyth yn gorfforol a gallech fod yn cystadlu yn unrhyw le yng Nghymru, neu’r tu hwnt.
Fel cynifer o ddigwyddiadau eraill mae’r trefnwyr wedi gorfod ystyried syniadau amgen fel yr eglura Deian Creunant,
“Er y cyfyngiadau sydd arnom y dyddiau hyn mae ffotograffiaeth yn parhau i fod yn weddol hygyrch – ac yn gyfle i bobl fynd allan i werthfawrogi eu hamgylchedd leol. Fe wnaethom rhywbeth cyffelyb dros benwythnos y Pasg gydag un thema y dydd ac fe brofodd yn boblogaidd iawn.
“Ond y nod fan hyn yw dychwelyd i fformat gwreiddiol y ffotomarathon sef tynnu’r chwe llun o fewn yr un dydd ac mae angen felly bod yn ddisgybledig iawn. Serch hynny y gobaith eto yw y bydd yn cynnig gweithgaredd i’r teulu cyfan, yn her i’r meddwl a’r dychymyg – ond yn hwyliog ar yr un pryd.”
Cynhelir y digwyddiad gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Aberystwyth ac mae’r Maer Charlie Kingsbury yn falch o weld y ffotomarathon yn mynd yn ei flaen,
“Rydym yn byw mewn cyfnod heriol tu hwnt ac mae’n hollbwysig fod rhai gweithgareddau ni wedi arfer eu gweld yn y dref yn mynd yn eu blaen, er mewn ffordd wahanol. Diolch i griw FfotoAber am fod yn barod i fentro gyda’r drefn rithiol hon a hoffwn annog pobl, yn uniogolion a theuluoedd, i gymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn.
“Rwy’n falch ein bod ni fel Cyngor yn medru ei gefnogi a hoffwn ddymuno’n dda i bawb sydd am gystadlu.”
Bydd tri chategori cystadlu – oed cynradd, oed uwchradd ac agored a chynigir gwobrau am y setiau gorau ymhob categori a’r llun gorau i bob thema.
Y beirniad fydd y ffotograffydd o Felinheli, Kristina Banholzer ac mae hi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld y lluniau,
“Mae’r Covid wedi effeithio ar bob rhan o’n bywydau a nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu gohirio neu ganslo. Mae’n braf felly gweld digwyddiad o’r math hwn yn mynd yn ei flaen, ac er yn wahanol i’r arfer mae’n parhau i roi cyfle i bobl fentro allan yn eu cymunedau a chofnodi yr hyn sydd o’n cwmpas.
“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i weld y cynigion ac yn enwedig i weld sut fydd y cystadleuwyr yn dehongli’r themau mewn modd sydd yn berthansol ac yn bersonol iddyn nhw.”
Os am gofrestru anfonwch ebost at ffotomarathon@gmail.com erbyn deg o’r gloch, nos Iau, 22 Hydref a dilynwch sianeli cymdeithasol facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber am fwy o wybodaeth.