Nos Fercher, 26ain o Chwefror, dathlodd grŵp gefeillio Aberystwyth ac Esquel dros 10 mlynedd o gydweithio.
Dywedodd Sue Jones-Davies “Pleser yw croesawu cyfarwyddwr y ffilm “Patagonian Bones” i Aberystwyth yn arbennig yr awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd, Ricardo Preve”. Dyma sylwadau Mari Turner, maeres Aberystwyth a Sue Jones-Davies, cynghorydd tref Aberystwyth: –
Mae’r ffilm yn dilyn hanes farwolaeth y ddynes gyntaf o Gymry ym Mhatagonia – Catherine Roberts o Landrillo ger y Bala, a bu farw ar y traeth wedi i’r Mimosa gyrraedd yn 1865. Roedd cofnodion y Cymry ym Mhatagonia yn nodi mai Catherine oedd y cyntaf i farw yn y Wladfa, er nad oes unrhyw fanylion am ble’n union y cafodd ei chladdu. Roedd nifer o atgofion am y beddau ar y traeth, ond doedd neb yn cofio lle’r oedd y bedd. Daethant ar draws arch yn 1995 oedd yn cynnwys esgyrn dynes, fyddai yn dyddio o’r un cyfnod.
Mae’r gwyddonwyr yn archwilio’r esgyrn, ond heb ddisgynnydd, nid oedd modd cadarnhau mai dyma oedd Catherine Roberts. Nodwyd y bedd gyda’r garreg fedd isod: –
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, a daethpwyd o hyd i Nia Olwen Ritchie o Gerrigydrudion, oedd yn rhannu perthynas o linach famol gyda nain Catherine Roberts. Doedd Nia Ritchie, sy’n ymladdwr tân, ddim yn gwybod dim o’r hanes yma nes iddi ddarganfod ei bod yn perthyn i Catherine Roberts.
Teithiodd Nia i’r Ariannin gan gael croeso mawr gan drigolion Gaiman, Trelew a Rawson. Uchafbwynt y daith oedd bod yr esgyrn yn cyfateb a DNA Nia, felly yn gadarnhad mai esgyrn Catherine Roberts oedd y rhain.
Teithiodd y cyfarwyddwr Ricardo Preve i Aberystwyth drwy’r tywydd mawr gan ei fod yn awyddus iawn i weld beth oedd adwaith y Cymry i’r ffilm a gyhoeddwyd yn 2015.
Croesawyd pawb i’r noson gan Stephen Tooth, cadeirydd y grŵp gefeillio, gan esbonio fod y noson am ddim diolch i garedigrwydd Cyngor Tref Aberystwyth. Gofynnwyd am gyfraniadau i elusen sydd yn rhoi offerynnau i blant difreintiedig yn yr Ariannin.
Roedd Catherine wedi cyrraedd yr Ariannin ar long y Mimosa ar 28 Gorffennaf 1865 gyda 152 o bobl eraill.
Yn 36 oed, roedd hi wedi talu £12 am ei thocyn i hwylio o Lerpwl i ddechrau bywyd gwell yn y Wladfa.
Roedd tystiolaeth o rai o’r pethau yn y bedd, gan gynnwys botwm a modrwy o Gymru, a’r wybodaeth am farw Catherine Roberts yn fuan ar ôl iddi gyrraedd, yn awgrymu mai ei chorff hi oedd hwn. Roedd asgwrn yr ên yn dal yn gyfan ac yn dangos fod nam bychan arno – sy’n cyfateb i’r unig lun o Catherine a dynnwyd cyn iddi gychwyn am Batagonia, sydd hefyd yn dangos bod ganddi nam ar ei gên.