Ffilm i bobl ifanc, gan bobl ifanc, yn tynnu sylw at ddigartrefedd

Seiliedig ar stori wir “un person dewr iawn”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae pobl ifanc Aberystwyth – gyda help Cwmni Theatr Arad Goch – wedi lansio ffilm fer i dynnu sylw at sefyllfa pobol ifanc sy’n ddigartref.

Mae’r ffilm fer Stori Alex yn adrodd hanes teulu’n chwalu a pherson ifanc yn dod yn ddigartref, cyn cael cefnogaeth gan sefydliad lleol.

“Rydyn ni’n teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, ble i gael cefnogaeth a’r ffaith y gallai ddigwydd i unrhyw un,” meddai Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth.

“Teimlwn y gallai’r ffilm hon helpu i ddechrau’r drafodaeth i’r hyn y gellir yn aml fod yn bwnc sensitif iawn.

“Rydym yn teimlo bod hwn yn fater pwysig nid yn unig i bobl yn Aberystwyth, ond ar draws Cymru.

“Roeddem am helpu i fynd i’r afael â’r mater o ddigartrefedd, ond nid yn unig digartrefedd, y stigma sy’n amgylchynu bod yn ddigartref.”

Y broses gynhyrchu

Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau ac fe gafodd ei ffilmio mewn lleoliadau amrywiol yn nhref Aberystwyth.

Rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r bobl ifanc ymchwilio i’r pwnc, ysgrifennu sgript a golygu a gwerthuso pob cam o’r prosiect, o dan oruchwyliaeth Cwmni Theatr leol, Arad Goch.

Cefnogwyd y prosiect hefyd gan ddisgyblion drama o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a gymerodd ran yn y cynhyrchiad.

“Pobl ifanc hynod dalentog”

Yn ôl Carwyn Blayney, cyfarwyddwr y ffilm:

“Braint oedd cael gweithio ar y prosiect hwn, gyda chriw arbennig o weithwyr ieuenctid, pobl ifanc hynod dalentog,” meddai, “ac ar sail stori wir un person dewr iawn;  diolch o galon iddo am rannu ei stori, ac am adael i ni ei ddefnyddio fel sail ar gyfer y ffilm fer hon.”

Ymunodd dros 90 o bobl â’r lansiad llwyddiannus a gynhaliwyd yr wythnos hon dros Zoom, a rhoddwyd y cyfle i’r gynulleidfa gyfranogi mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r bobl ifanc.

Mae modd gwylio’r ffilm fan hyn.