Mae pobl ifanc Aberystwyth – gyda help Cwmni Theatr Arad Goch – wedi lansio ffilm fer i dynnu sylw at sefyllfa pobol ifanc sy’n ddigartref.
Mae’r ffilm fer Stori Alex yn adrodd hanes teulu’n chwalu a pherson ifanc yn dod yn ddigartref, cyn cael cefnogaeth gan sefydliad lleol.
“Rydyn ni’n teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, ble i gael cefnogaeth a’r ffaith y gallai ddigwydd i unrhyw un,” meddai Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth.
“Teimlwn y gallai’r ffilm hon helpu i ddechrau’r drafodaeth i’r hyn y gellir yn aml fod yn bwnc sensitif iawn.
“Rydym yn teimlo bod hwn yn fater pwysig nid yn unig i bobl yn Aberystwyth, ond ar draws Cymru.
“Roeddem am helpu i fynd i’r afael â’r mater o ddigartrefedd, ond nid yn unig digartrefedd, y stigma sy’n amgylchynu bod yn ddigartref.”
Y broses gynhyrchu
Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau ac fe gafodd ei ffilmio mewn lleoliadau amrywiol yn nhref Aberystwyth.
Rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r bobl ifanc ymchwilio i’r pwnc, ysgrifennu sgript a golygu a gwerthuso pob cam o’r prosiect, o dan oruchwyliaeth Cwmni Theatr leol, Arad Goch.
Cefnogwyd y prosiect hefyd gan ddisgyblion drama o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a gymerodd ran yn y cynhyrchiad.
“Pobl ifanc hynod dalentog”
Yn ôl Carwyn Blayney, cyfarwyddwr y ffilm:
“Braint oedd cael gweithio ar y prosiect hwn, gyda chriw arbennig o weithwyr ieuenctid, pobl ifanc hynod dalentog,” meddai, “ac ar sail stori wir un person dewr iawn; diolch o galon iddo am rannu ei stori, ac am adael i ni ei ddefnyddio fel sail ar gyfer y ffilm fer hon.”
Ymunodd dros 90 o bobl â’r lansiad llwyddiannus a gynhaliwyd yr wythnos hon dros Zoom, a rhoddwyd y cyfle i’r gynulleidfa gyfranogi mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r bobl ifanc.
Mae modd gwylio’r ffilm fan hyn.