gan
Ohebydd Golwg360
Mae’r ddrama newydd ‘Tu Fewn Tu Fas’ gan Arad Goch wedi cymryd dros flwyddyn i’w datblygu, ac yn trafod Profiadau Niweidiol Plentyndod (ACE’s).
Mae’r cynhyrchiad bellach yn teithio o amgylch ysgolion, gyda’r cymeriadau yn rhannu syniadau cadarnhaol ynglŷn â sut i ymdopi gydag emosiynau.
Y gobaith yw bydd pob aelod o’r gynulleidfa yn mwynhau dehongli’r gwaith yn ôl ei ymateb personol unigryw.
Gwyliwch ein fideo isod i gael cip olwg o’r ddrama: