Enillydd ffotomarathon Pasg dydd Gwener

Rhodri ap Dyfrig yn ennill cystadleuaeth y diwrnod cyntaf ar y thema ‘Pren’.

gan Deian Creunant

Cafwyd diwrnod cyntaf llwyddiannus iawn yn ffotomarathon Pasg FfotoAber gyda dros 200 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn. Thema’r diwrnod cyntaf oedd Pren ac mae’n bosib gweld yr amryw geisiadau drwy ymweld â sianeli Twitter, Facebook ac Instagram FfotoAber a chwilio am yr hashnod #ffotomarathonpasg.

Yn ogystal â cheisiadau o bob rhan o Gymru gwelwyd rhai hefyd yn dod o Malaysia, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd.

Cafodd Aled Jenkins, y beirniad, noson brysur iawn ac fe nododd pa mor uchel eu safon oedd yr holl luniau.

Roedd am grybwyll yn arbennig luniau Eira Macdonald, Carwyn Evans a Paul Rowlands am eu bod mor gain ac amserol.

Ond yr enillydd am y dydd Gwener oedd Rhodri ap Dyfrig gyda’r llun uchod gan fod y cyfansoddiad mor dda a’i fod yn arwydd o fywyd newydd yn ôl y beirniad.

Bydd yn derbyn taleb ar gyfer Ultracomida.

Llongyfarchiadau iddo ef ac i bawb a gymerodd ran.

Y thema ar gyfer heddiw (Sadwrn) yw Melyn – y wybodaeth lawn ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber.