Enillydd ffotomarathon dydd Sul

Pysgotwr lleol yn ennill ar Sul y Pasg

gan Deian Creunant

Ar drydydd diwrnod ffotomarathon Pasg FfotoAber gwelwyd yn agos at 300 o bobl unwaith eto yn cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw.

Thema dydd Sul y Pasg oedd Rhif ac mae’n bosib gweld yr amryw geisiadau drwy ymweld â sianeli Twitter, Facebook ac Instagram FfotoAber a chwilio am yr hashnod #ffotomarathonpasg.

Trydedd noson brysur felly i’r beirniad Aled Jenkins a does dim gwanhau wedi bod yn y safon ac roedd darganfod enillydd yn benderfyniad anodd iawn.

Y tro hwn roedd am grybwyll yn arbennig a rhoi clod i luniau Siwan Fflur, Paul Rowlands, Nick Treharne a Betsan Wyn Morris am fod y cyfansoddiad yn dda a bod y rhif yn sefyll allan.

Ond yr enillydd am y dydd Sul, oedd John Gorman gyda’r llun isod am ei symlrwydd, y cyfansoddiad a’r lliw.

Cafodd John ganmoliaeth uchel am ei lun ddydd Sadwrn a llwyddodd i wneud hyd yn oed yn well ddoe

Bydd yn derbyn taleb ar gyfer Ultracomida.

Llongyfarchiadau iddo fe ac i bawb a gymerodd ran.

Y thema ar gyfer y diwrnod olaf heddiw (Llun) yw Adlewyrchiad – y wybodaeth lawn ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber.