Mwy o enillwyr y ffotomarathon

Cynhaliwyd ffofomarathon rhithiol FfotoAber dros y penwythnos. Dyma rai o’r enillwyr.

gan Deian Creunant

Yr wythnos hon mae cyhoeddiad enillwyr am 6 o’r gloch nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau. 

Heno (nos Fercher) cyhoeddwyd enillwyr dwy o’r themâu a’r enillydd am y set o chwe llun yn yr oed uwchradd. 

Yr enillydd uwchradd yw Gwion Crampin o Aberystwyth, a bydd yn derbyn gwobr o gamera arbennig yn rhoddedig gan gwmni Unigryw. Mae ei luniau i’w gweld yma. 

Rhoddodd y beirniad, y ffotograffydd Kristina Banholzer, ganmoliaeth uchel hefyd i Eira MacDonald ac Osian King gan nodi yn ogystal fod y safon unwaith eto yn uchel iawn. 

Yn ennill am ei lun ar y thema Drych mae Rob Stephen – ei ail fuddugoliaeth o’r wythnos wedi iddo ennill hefyd am ei lun ar y thema Tri.  

Ffion Jones oedd yn fuddugol am ei llun ar y thema Oren. 

Rhoddwyd canmoliaeth uchel hefyd i’r canlynol am eu lluniau ar y themâu hyn – Sean Fitzpatrick, Dewi Alun Jones a Wyn Griffith.. 

Yfory (nos Iau) am 6 cyhoeddir yr enillydd yn y categori agored a’r ddwy thema olaf.