Ellen ap Gwynn yn ateb eich cwestiynau am ysgolion, pecynnau bwyd a chau ffiniau Ceredigion

Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn ateb cwestiynau am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn cyfweliad fideo arbennig gan golwg360 mae Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, wedi bod yn ateb eich cwestiynau chi – bobol Ceredigion – am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Campws Penglais ar gael i Ysgol Penweddig

Fel disgybl yn Ysgol Penweddig mae Tom Kendall yn falch o weld ei ysgol yn cael ei defnyddio fel ysbyty dros dro, ond roedd yn awyddus i ofyn i Arweinydd y Cyngor sut byddai hyn yn effeithio ar yr ysgol wrth ailagor.

Eglurodd Ellen ap Gwynn, pe bai angen defnyddio’r ysbyty dros dro ar gampws Penweddig i drin cleifion bydd adeiladau ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar gael i’w defnyddio gan Ysgol Penweddig.

Er hyn mae’r arweinydd yn ffyddiog y bydd “safle Penweddig yn cael ei adfer o flaen y Ganolfan Hamdden” os na fydd angen ei defnyddio.

Dim hawl i gau ffiniau Ceredigion

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a fydd modd cau ffiniau Ceredigion os bydd y cyfyngiadau presennol yn codi, yr ateb oedd na – does dim hawl gwneud hynny.

Ond y neges glir gan Arweinydd y Cyngor i Lywodraeth Cymru yw nad ydym yn y gorllewin wedi gweld y gwaethaf o’r don yma, felly “peidiwch â chodi’r gwaharddiad ar hyn o bryd”.

Cafodd yr Arweinydd “eithaf sicrwydd” y bore yma na fydd dim byd yn digwydd dros Ŵyl y Banc nesaf, o leiaf.

Anghytuno â Vaughan Gething am gartrefi gofal

Yn y cyfweliad eglurodd Ellen ap Gwynn ei bod hi mewn cyswllt cyson â gweinidogion, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, ond ei bod hi’n anghytuno â dewis Llywodraeth Cymru mai ond rheiny sydd yn dangos symptomau sydd â hawl i brawf Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Pryder am Eisteddfod Genedlaethol 2021

Mae sefyllfa’r Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2021, “yn y gwynt” yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ac fel mwyafrif o ddigwyddiadau eraill yn ddibynnol ar frechlyn yn cael ei ddatblygu i ddelio a’r coronafeirws.  

“Dwi’n ofni na fydd dim byd o raddfa fawr yn cael ei gynnal hyd nes bydd y bygythiad yma o gael ail don, a hyd yn oed trydydd ton wedi cael ei lleddfu.

“Efallai bydd rhaid i ni fod yn fwy creadigol. Rydym ni eisoes wedi clywed fod Eisteddfod yr Urdd yn cynnal Eisteddfod T ar y cyfryngau er mwyn dygymod â’r diffyg cyd gyfarfod.”

Ychwanegodd Ellen ap Gwynn, “Mae rhaid i ni gael rhywfaint o obaith yn y cyfnod yma, a rhywbeth i edrych ’mlaen ato. Mae’r gwaith paratoi wedi’i wneud yn barod felly dwi wir yn gobeithio bydd bob dim yn iawn erbyn hynny er mwyn ail gydio yn y cymdeithasu.”

Cynnyrch lleol unwaith eto i bobol

Bu raid i Gyngor Ceredigion roi’r gorau i ddarparu bwyd i bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas sy’n hunan ynysu a dilyn trefniant newydd Llywodraeth Cymru. Roedd y Cyngor Sir wedi dechrau ar y trefniadau cyn i system newydd gael ei rhoi ar waith gan y Llywodraeth.

Oherwydd pryderon cynyddol gan bobol leol am safon y bwyd a rhai hyd yn oed yn cwyno fod bwyd yn eu cyrraedd wedi pydru, mae Cyngor Ceredigion wedi cael yr hawl i fynd nôl at y cynllun gwreiddiol, a darparu bwyd trwy gwmnïau lleol.

Dywedodd Ellen ap Gwyn, “doedd y sefyllfa ddim yn ddigonol, o wythnos nesaf ymlaen bydd Cyngor Ceredigion yn darparu cynnyrch lleol unwaith eto i bobol.”

Gwersi i’w dysgu i’r dyfodol

Er holl bryderon pobol mi oedd arweinydd y Cyngor Sir yn awyddus i ddiolch i’r holl bobol sydd wedi bod yn gwirfoddoli yng Ngheredigion er mwyn helpu’r bobol fwyaf llai ffodus yn ein cymunedau, a’u bod nhw’n destun balchder iddi.

“Mae’r sefyllfa yma wedi dod a’r gorau allan o bobol Ceredigion” yn debyg i argyfyngau’r gorffennol. “Mae cymunedau Ceredigion unwaith eto wedi yn dangos eu bod nhw yna i helpu ar bob achlysur.”

Gwyliwch y cyfweliad llawn yma: