Elin Rattray o Lanfihangel-y-creuddyn yw Aelod Iau CFfI Cymru

“Ers yn blentyn bach, mae Mam wedi llusgo fi i holl ddigwyddiadau’r CFfI…..YM MHOB TYWYDD!”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Elin Rattary – Llun CFfI Cymru

Mae Elin Rattray o Lanfihangel-y-creuddyn newydd gael ei phenodi’n Aelod Iau CFfI Cymru. Mae’n ddisgybl 6ed dosbarth Ysgol Penweddig, ac yn aelod o CFfI Trisant ers 5 mlynedd.

 

Pa mor bwysig yw Mudiad y Ffermwyr Ifanc i ti?

Mae’r mudiad wedi chwarae rôl holl bwysig yn fy mywyd i, ac rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd, yn dysgu sgiliau newydd a chael llu o brofiadau newydd o fewn y mudiad.

Mae’n fan gyfarfod, cyfle i gwrdd â phobl newydd o fewn yr ardal, yn Sirol ac yn Genedlaethol.

Mae’r mudiad yn dysgu sgiliau bywyd holl bwysig i ni fel pobl ifanc sydd yn ddefnyddiol mewn pob agwedd o fywyd.

 

Hoff gystadleuaeth/gweithgaredd CFfI?

Heb os nac oni bai, y Rali!

Dwi wrth fy modd efo diwrnod y Rali, cael y cyfle i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau ynghyd a dal lan da hen ffrindiau, cwrdd â ffrindiau newydd a chymdeithasu efo pobl o ar draws y Sir a thu hwnt.

 

Pa wahaniaeth hoffet ti ei wneud fel Aelod Iau CFfI Cymru?

Dwi wir yn edrych ymlaen am fy mlwyddyn fel Aelod Iau Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf dwi wedi bod yn Llysgennad CFfI yn Ysgol Penweddig. Yn dilyn llwyddiant y rôl yma rwy’n gobeithio ymestyn rôl y llysgennad i ysgolion uwchradd mewn siroedd eraill ynghyd ag ehangu’r Llysgenhadon i golegau yng Nghymru.

 

Beth yw’r her fwyaf i ti fel Aelod Iau CFfI Cymru?

Rôl bwysicaf Aelod Iau i mi yw sicrhau fy mod yn cynrychioli llais holl aelodau iau’r mudiad – dwi’n edrych ymlaen at yr her yma, i gyrraedd pob ardal o Gymru, i glywed eu syniadau a’i barn nhw am agweddau gwahanol o’r mudiad.

 

Mae gan CFfI Cymru dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 157 o glybiau. – Llun CFfI Cymru

Yn ogystal â’r ffermwyr ifanc, sut wyt ti’n treulio dy amser?

Rwy’n hoff iawn o weithio yn y Siop Cigydd Teuluol yn Aberystwyth ac yn gyfrifol am dudalen ‘Instagram’ y busnes. Hefyd rwy’n cadw defaid Texel Glas ar y cyd efo fy mrawd ac yn eu harddangos nhw mewn sioeau lleol a’r Sioe Frenhinol.

 

Pa ymadrodd ti’n ei ddefnyddio’n rhy aml?

‘Fi’n Buzzin’

 

Pwy fyddet ti’n gwahodd i dy bryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Boris Johnson, er mwyn gweini cynhyrchion lleol Cymreig iddi – yn enwedig Cig Oen Cymreig. Byddai’n gyfle i ddangos iddo safon y bwyd rydym yn ei gynhyrchu yma yng Nghymru, a’r pwysigrwydd o gefnogi ffermwyr.

Byddai Elin Rattray yn gwahodd y Prif Weinidog, Boris Johnson i’w phryd bwyd delfrydol er mwyn gweini cynhyrchion lleol Cymreig iddo.

 

Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnat ti?

Ers yn blentyn bach, mae Mam wedi llusgo fi i holl ddigwyddiadau’r CFfI…..YM MHOB TYWYDD! Dyma be ysgogodd fi i ymuno a’r mudiad yn gyntaf pan oeddwn yn 12 mlwydd oed.