Eisteddfod Aberystwyth 1992

Atgofion 28 mlynedd ers Eisteddfod Aberystwyth 1992

gan Medi James
Llaw-forwynion-1

Emsyl, Caryl Ebeneser, Gwenan

Leusa-1

Leusa fy merch yn gwisgo’r ffrog wen

Ianto-1

Ianto, mab Mali’n gwisgo crys Digion y Dolffin

Mae cael cymryd rhan er mor fach ac ar y wyneb dibwys, mewn unrhyw Eisteddfod, yn dod a phawb i gyffyrddiad a nodwedd bwysig iawn o’n cefndir ni fel Cymry. I rai ohonom mae’r digwyddiadau yma’n flynyddol yn aml yn rhan o’n magwraeth, i eraill mae’n ddrych dieithr i’n cefndir. Weithiau’n wirion ond fanycha yn denu chwilfrydedd ac eiddigedd. Mae’n bwysig iddo ddatblygu ag i ni gymryd pob cyfle i’w hybu.

Dyma ddwy o’n merched ni yn rhoi hanes 28 mlynedd yn ôl.

Medi James

Bod yn llawforwyn yn seremonïau’r orsedd. 

Deg oed oeddwn i yn Haf 1992. Haf fydd yn aros yn y cof i drigolion Aberystwyth achos yr Eisteddfod Genedlaethol ddaeth i Aber. I mi roedd cael bod yn llawforwyn yn seremonïau’r wythnos yn brofiad a hanner. Dwi ddim yn cofio pob manylyn ond maent ar gof a chadw mewn lluniau a fideos VHS o’r wythnos sy’n hel llwch mewn bocs sgidiau a ddaw allan ambell i Nadolig i ddangos i’r plant. Dwi’n cofio nerfau cyn y cyfweliad yn yr ysgol Gymraeg. Ie, cyfweliad! i edrych ar ein hosgo a’n cerddediad. Fe wnaeth yr oriau o ymarfer hwyliog ond cadarn gyda’r diweddar Marian Jenkins, Llandre sicrhau perfformiad perffaith ganddo ni, y macwyaid a merched y ddawns flodau. Erbyn y diwedd roedd yr alawon sy’n gyfarwydd i bob ‘eisteddfodwr yn cylchdroi yn fy mhen. 

Roeddwn yn gyffrous am gael gwisgo’r ffrog wen a’r sgidiau aur, a chael mynd am ‘fittings’ at y diweddar Ray Jones ar Y Waun. I gwblhau’r olwg osgeiddig roedd rhaid gwisgo band pen aur a sash aur o gwmpas y wast. Gwenan Lockley oedd fy mhartner, hi efo’r gwallt melyn i gyd-fynd a’r wisg a finnau wedi mynnu torri fy ngwallt yn fyr.

Roedd teithio ar dop y bws deulawr gyda’r orsedd, (hen ddynion yn gwisgo welingtons gwyn!) o ysgol Penglais i’r maes ar Gelli Angharad yn dipyn o sbort a chyffro’r seremonïau yn achosi nerfau wrth i ni gario’r goron werthfawr ar y clustog goch. Gobeithio’n fawr na fyddwn yn baglu na siglo yn ystod y penlinio araf. Dipyn o sploitch fu gosod y goron ar ben y prifardd, Cyril Jones, medde mam wrtha i wedyn. Ond o edrych nôl roedd cael bod yn rhan o seremonïau mor gyfarwydd yn gyfle na fyddwn wedi ei golli. 

Emsyl Llwyd (James)

 

 

“Digion y Dolffin – wa -hei!”

Dyna be gofia i o Eisteddfod Aberystwyth 1992 – y floedd a ddaeth o’r gynulleidfa pam wnaeth mascot ein Pasiant y Plant –“Seth Gwenwyn a’r Gwyrddedigion” ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn!

Yn 12 mlwydd oed, ces y cyfle i fod yn chwarae rhan Susan yn y Pasiant. Un o’r pump Gwyrddedigion oedd Susan, criw o bobl ifanc oedd am achub Cantre’r Gwaelod o warchae Seth Gwenwyn!

Dim ond atgofion hapus ‘sgenna i o’r holl beth! Y clyweliad yn Ysgol Penweddig gan yr amryddawn ag annwyl Ann Davies. Clywed fod yna 4 Gwyrddedigion i gychwyn ond wedyn ychwanegu “Susan” i’r criw fel un bach ychwanegol – a dyna fi! Roedd Ann yn wych ac yn llawn syniadau a brwdfrydedd gyda’r cast ifanc o gannoedd. Doedd dim lot o gliw actio genna i ond wrth fy modd mewn pob ymarfer yn symud o gan i gan gyda chorws o blant ysgolion cylch Aberystwyth. Dyddie da a phrofiad bythgofiadwy!

Mali Thomas (James)