Eini, beini, bara – Dirgelwch y dulliau rhifo

Dirgelwch y dulliau rhifo. Cyfri defaid

Gwenllian Grigg
gan Gwenllian Grigg
4D25FA69-32A1-48E1-91D0-CBCEA45ACE4E

Y dulliau rhifo yn fy mhrosiect

Mae’r byd fwy neu lai wedi ei droi ben i waered yn y tri mis diwetha, ac os oes unrhyw faintais i fod gartre drwy’r dydd, bob dydd, am wythnosau ben bwy gilydd, un o’r rheini yw’r cyfle i gael trefn ar y tŷ a thacluso hen ddroriau.

Ac os y’ch chi fel fi, rych chi’n storio ac yn cadw popeth, gan gynnwys y darnau lleia o bapur. Byddai’n well gen i weithiau fod yn fwy llym a thaflu popeth, ond yn yr achos hwn, dwi’n falch fy mod i’n gasglwr pethe.

Achos wrth gael trefn ar y tŷ, fe ddois o hyd i brosiect ysgol wnes i 35 mlynedd yn ôl. Fy athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, Emyr Llywelyn, oedd wedi gosod y dasg, dan y teitl Fy Mro, ac fe es ati felly i ymchwilio i hanes fy mhentre i, Talgarreg. Bu’n waith pleserus o’r hyn rwy’n gofio, ac fe ddysgais lawer, ond cyn ailddarganfod y prosiect ryw fis yn ôl, roedd un dudalen yn dal i aros yn y cof.

Fel rhan o’r gwaith ymchwil, awgrymodd fy rhieni ’mod i’n siarad â Lloyd Jones, Mynachlog, Talgarreg, oedd yn ymddiddori mewn hanes lleol. Rwy’n cofio cael sawl darn diddorol ganddo, ond yn fwy na dim, rwy’n cofio un darn o bapur roddodd fenthyg i mi i’w gopÏo. Ar y papur hwnnw, roedd gwahanol ddulliau lleol o rifo defaid – un yn ardal afon Cletwr yn Nhalgarreg, un yn ardal afon Cerdin yn Ffostrasol, ac un o ardal Goginan ger Aberystwyth.

Blas o’r gorffennol

Dwi’n cofio cael fy nghyffroi o ddarllen y geiriau a chael blas ar fyd arall, dirgel o’r gorffennol. Maen nhw fel iaith gwneud, bron – nid “un, dau tri” sydd yma, ond “eini, beini, bara” neu “hen, ddo, tri”. Fe ailysgrifennais y geiriau a’u cynnwys yn y prosiect. Ro’n i’n chwilfrydig am y rhifau, ond yn anffodus wnes i ddim gwaith ymchwil pellach.

Yn y degawdau ers hynny, dwi wedi clywed am ddulliau rhifo tebyg yng ngogledd Lloegr – “yan, tan, tethera” – ac wedi meddwl, tybed oedd cysylltiad? O fynd yn ôl at fy mhrosiect, ro’n i wedi cynnwys dull rhifo Cumberland ar y dudalen. 

Felly pan ddois i ar draws fy mhrosiect unwaith eto, a gweld y dudalen, fe feddylies y bydde’n werth ei rhannu ar dudalen arall, fodern – sef tudalen Iaith ar lwyfan Facebook. Tudalen yw hon y mae Guto Rhys wedi ei sefydlu i gasglu geirfa leol am bob peth dan haul yn yr iaith Gymraeg. Mae Guto, gyda llaw, newydd gyhoeddi llyfr yn seiliedig ar gyfraniadau pobl o bob cwr o’r wlad, dan y teitl AmrywIAITH.

Chwilio am ymateb

‘Chydig fyddwn i wedi meddwl nôl ym 1985 y byddwn ryw ddiwrnod yn gallu tynnu llun o’r dudalen hon ar ffôn clyfar, a’i hanfon i fyd rhithiol lle byddai gweddill y byd yn gallu ei gweld o fewn eiliadau.

Ond dyna wnes i, ac mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol.

“Diddorol”, medd llawer, “Pam?”, gofynna eraill, sy’n gwestiwn dilys! Pam fod bugeiliaid wedi defnyddio dulliau rhifo mor wahanol? Mae ’na awgrym fod ’na draddodiad o ddefnyddio’r dulliau hyn wrth gyfri maglau tra’n gwau hefyd.

Mae nifer wedi cyfeirio at ddull rhifo gogledd Lloegr, a does dim amheuaeth bod ’na debygrwydd yn rhai o’r rhifau. O astudio’r dudalen eto, mae dull rhifo Goginan yn debycach i’r Wyddeleg.

Yn gyffredinol, rhannu chwilfrydedd mae’r ymatebion. Dim ond un sydd wedi dweud ei bod hi’n gyfarwydd ag un o’r dulliau rhifo hyn. Dywedodd Non Walters fod y dull sy’n debyg i un Cletwr yn y llun uchod wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn ei theulu hi ym Mhorth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin, a bod wyresau ei chyfnither wedi cael eu ffilmio yn eu hadrodd gan Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin. Fe gafodd hynny sylw ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, sydd hefyd yn gwneud gwaith pwysig wrth drafod geiriau gwahanol dafodieithoedd. Mae gwrando arnyn nhw’n adrodd y rhifau yn hudolus.

Ers yr ymateb ar Facebook, dwi wedi siarad gyda Lloyd Jones eto i weld a fyddai ganddo ragor o wybodaeth. Dywedodd iddo gael y dudalen mewn dosbarth nos flynyddoedd yn ôl, dan arweiniad y diweddar Evan James, Penrhyn-coch. Mae’n debyg fod Dr James wedi cael peth o’r wybodaeth o siarad â hen wraig yn Nhre-groes oedd yn gwybod y rhifau ar ei chof.

Cwestiynau’n parhau

Ond mae arna i ofn nad ydw i wedi llwyddo i gael llawer o wybodaeth bellach, ac mae cymaint o gwestiynau’n parhau.

Dwi ddim yn arbenigwr iaith o fath yn y byd ond, fel llawer ohonon ni’r Cymry, dwi’n ymddiddori yn y geiriau ar ein tafodau. Mewn darlith ar-lein yng Ngŵyl y Gelli yn ddiweddar dywedodd y prifardd Mererid Hopwood ei bod yn rhyfeddu at sut y mae pobl yn gweld gwerth gwarchod hen greiriau i’r dyfodol, heb roi’r un pwyslais ar warchod ieithoedd. Sylw fydd yn taro tant mor glir gyda ni yng Nghymru.

Dyma gyfle felly i apelio arnoch i rannu unrhyw wybodaeth a allai’n goleuo. Oni fydde’n hyfryd llenwi’r bwlch bach hwn yn ein hanes – a dysgu pam, ym mhob tywydd ar fryniau Ceredigion a thu hwnt, i fugeiliaid adrodd y rhifau hyn fel mantra wrth gyfri’u preiddiau?