Mae Cadeirydd Eglwys y Santes Fair, Siôn Meredith wedi ymwrthod â’r galwadau i gategoreiddio addoldai yn hanfodol, a’u heithrio o gyfnodau clo yn y dyfodol.
Daw’r drafodaeth wedi i filoedd o bobl lofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid statws eglwysi i fod yn safleoedd hanfodol ac wrth i arweinwyr crefyddol yng Nghymru a Lloegr anfon llythyr cyfreithiol agored sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chau eu drysau eto.
Mewn llythyr cyhoeddus, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi pwysleisio “nad ymosodiad ar ffydd” yw’r camau hyn.
“Bywyd yr eglwys wedi parhau”
Mewn sgwrs gydag Aber360, dywedodd Sion Meredith bod bywyd yr eglwys wedi parhau drwy gydol y cyfnod clo, mewn ffyrdd gwahannol i’r arfer.
“Fel eglwys, ‘da ni erioed wedi cau trwy’r holl gyfnod. Rydym wedi parhau i addoli ac i weithio fel eglwys drwy fod yn greadigol a symud ar-lein,” meddai.
“Mae hi’n bwysig i eglwysi chwarae eu rhan i atal lledaeniad Covid a dwi’n meddwl bod modd i eglwysi barhau hefo’i bywyd mewn ffyrdd gwahanol, heb orfod cyfarfod wyneb yn wyneb.”
Er ei fod yn cydnabod rhwystredigaeth y sefyllfa, mae’n ategu mai diogelwch ac iechyd cyhoeddus yw’r flaenoriaeth bwysicaf:
“Mae hi wedi bod yn anodd i nifer, dydi hi ddim wedi bod yn ddelfrydol i’r rhai sydd ddim yn gallu defnyddio’r dechnoleg ond fel arfer maen nhw’n bobl hŷn, sydd angen gwarchod rhag y coronafeirws.”
“Rhoi cynsail i eraill hefyd gyfiawnhau cael eu heithrio”
“Dwi’n credu os yw eglwysi yn mynnu’r hawl i gael eu heithrio o reolau, mae’n rhoi cynsail i grwpiau eraill hefyd gyfiawnhau cael eu heithrio ac yn y diwedd y mwyaf o eithriadau sy’n cael eu gwneud, y lleiaf effeithiol fydd unrhyw gyfnod clo.”
“Mae’n rhaid i Eglwysi feddwl am les y gymuned ac iechyd y gymuned a phobl sydd yn agored i niwed.”
“Wrth gwrs mae yna bris i dalu a ‘da ni’n cydnabod hynny o ran fod pobl eisiau byw eu bywydau ysbrydol a chael y cyswllt ond mi fyddwn ni yng Nghymru yn cael ailddechrau cyfarfod eto yn fuan.”
Bydd mannau addoli yn ailagor ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru o Dachwedd 9 ymlaen.