Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio adroddiad sy’n crynhoi effaith y Coronafeirws ar economi’r sir.
Yn ôl yr adroddiad, gwelwyd cynnydd o 146% yn y nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau sydd yn gysylltiedig â diweithdra ers mis Mawrth hyn at ddiwedd mis Awst.
Daw’r cynnydd uchaf ymhlith pobl ifanc rhwng 18 a 24 mlwydd oed.
Effeithiau llawn yn dal i ddod i’r amlwg
Er na fydd effeithiau llawn y cyfyngiadau diweddar ar yr economi yn glir yng Ngheredigion nac unrhyw le arall yng Nghymru am beth amser, mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd yr effaith yn sylweddol.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r mesurau cefnogaeth sydd wedi’u cyflwyno yng Ngheredigion a hefyd yn nodi’r mesurau mae’r Cyngor yn eu cynllunio er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.
Maent yn ymroi i gydlynu eu hymdrechion gan gydweithio gyda phartneriaeth a rhanddeiliaid i gefnogi busnesau ac i alluogi’r economi i addasu.